Ceir trosolwg isod o’r materion y mae’r Bwrdd Taliadau wedi ymgynghori arnynt o’r blaen isod.
Mae manylion am ymgyngoriadau sy’n dal i fynd rhagddynt hefyd ar gael.
Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd 2025 - presennol
Ymgynghoriad ar newidiadau cytundebol sy’n deillio o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025
Cyhoeddodd y Bwrdd Taliadau ymgynghoriad ar newidiadau cytundebol sy’n deillio o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025.
Roedd yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â diweddaru’r contractau safonol ar gyfer staff cymorth yr Aelodau fel eu bod yn adlewyrchu hawliau cyflogaeth newydd. Gofynnodd y Bwrdd am farn yn unig ar y newidiadau cytundebol penodol sydd eu hangen i fodloni’r gofynion statudol newydd.
Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn nodi hawliau statudol newydd i weithwyr a gofynion newydd ar gyflogwyr.
Mae’r Bwrdd yn gosod y contract safonol ar gyfer staff cymorth drwy’r Penderfyniad, yn adran 7.1.1b. Mae angen i’r contract safonol adlewyrchu’r hawliau statudol newydd fel bod y sefyllfa yn glir ac yn gyson, ac fel y gall Aelodau gyflawni eu dyletswydd fel cyflogwr cyfrifol o dan Reol 11 o’r Cod Ymddygiad.
Felly, wnaeth y Bwrdd cynnal ymgynghoriad cyfyngedig ar newidiadau penodol i’r contractau Parhaol a Chyfnod Penodol. Mae angen y newidiadau hyn i adlewyrchu gofynion statudol newydd a rhaid eu cyflwyno’n gyflym. Nid yw’r Bwrdd yn ceisio barn ehangach ar y contract nac ar delerau ac amodau staff cymorth ar hyn o bryd.
Newidiadau cytundebol sy’n deillio o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025: 21 Medi 2026
Ymgynghoriad ar y Penderfyniad Drafft ar gyfer y Seithfed Senedd
Cynhaliodd y Bwrdd ymgynghoriad rhwng 15 Rhagfyr 2025 a 4 Chwefror 2026, i ofyn am safbwyntiau ar y Penderfyniad drafft symlach newydd ar gyfer y Seithfed Senedd. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys nifer cyfyngedig o gynigion polisi a chodiadau ar sail chwyddiant i gyflogau a chyllidebau ar gyfer 2026-27.
Cyhoeddodd y Bwrdd ei adroddiad ar ymgynghoriad y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd ar 30 Mawrth 2026.
Tâl Cadeiryddion Pwyllgorau sy’n Rhannu Swydd
Cynhaliodd y Bwrdd ymgynghoriad rhwng 27 Chwefror a 11 Mawrth 2026, i ofyn am farn ar dâl cadeiryddion pwyllgorau sy’n 'rhannu swyddi'.
Cyfarfu'r Bwrdd ddydd Iau 19 Mawrth i drafod yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad. Ceir rhagor o wybodaeth am benderfyniadau a wnaeth y Bwrdd ar hyn, a materion eraill, yn eu llythyr diweddaru ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth.
Yn dilyn hynny, mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi datganiad Penderfyniad eithriadol o dan adran 14(4) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
Cynnig i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gweithredu'r adolygiad o gyflogau a graddfeydd staff
Cafodd yr holl Aelodau o'r Senedd lythyr ar 22 Rhagfyr 2025 yn dilyn materion a phryderon a godwyd ynghylch yr heriau o weithredu'r fframwaith cyflogau a graddfeydd cyn dechrau tymor y Seithfed Senedd.
Cynhaliodd y Bwrdd ymgynghoriad rhwng 22 Rhagfyr 2025 a 16 Ionawr 2026, i geisio safbwyntiau ynghylch a ddylid ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gweithredu'r fframwaith cyflogau a graddfeydd tan 30 Mehefin 2026.
Cyfarfu'r Bwrdd ddydd Mercher 21 Ionawr i drafod yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad. Ceir rhagor o wybodaeth am benderfyniadau a wnaeth y Bwrdd ar hyn, a materion eraill, yn eu llythyr penderfyniad ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Ionawr.
Yn dilyn hynny, mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi datganiad Penderfyniad eithriadol o dan adran 14(4) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd
Gwnaeth y Bwrdd ei benderfyniadau allweddol ynghylch cyflogau Aelodau a chyllidebau busnes a staffio ar gyfer y Seithfed Senedd ym mis Gorffennaf 2025.
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Dau
Ymgynghorodd y Bwrdd ar nifer o gynigion fel rhan o Rhan Dau yr Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 4 Mehefin 2025.
Cyhoeddodd y Bwrdd Adroddiad ar ei Ymgynghoriad Rhan Dau - Adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd ar 29 Gorffennaf 2025
Ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad: cynigion ar gyfer 2025-26
Ymgynghorodd y Bwrdd ar nifer o gynigion fel rhan o'i adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Chwefror 2025.
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Un
Ymgynghorodd y Bwrdd ar nifer o gynigion fel rhan o Rhan Un yr Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Rhagfyr 2024.
Cyhoeddodd y Bwrdd Adroddiad ar ei Ymgynghoriad Rhan Un - Adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd ar 28 Mawrth 2025.