Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau: Hyblygrwydd y lwfansau o ran y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol

Cyhoeddwyd 21/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ei gyfarfod ar 24 Mai, trafododd y Bwrdd Taliadau yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ynghylch ei gynigion i gynyddu’r defnydd hyblyg o lwfansau presennol o fewn y Penderfyniad ar gyfer lwfansau Aelodau unigol. Hefyd, trafododd y Bwrdd sut y gallai gynyddu hyblygrwydd y lwfans mewn perthynas â’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol i roi rhywfaint o gydraddoldeb â hyblygrwydd y darpariaethau ar gyfer Aelodau a Phleidiau Gwleidyddol. Penderfynodd y Bwrdd i ymgynghori ar y cynigion a ganlyn:

  • cyllido Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol gan ddefnyddio pwyntiau talu gwirioneddol;
  • cyhoeddi gwariant pob Plaid Wleidyddol a wneir mewn perthynas â’i Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol;
  • cael gwared ar y ddarpariaeth o fewn y Penderfyniad sy’n caniatáu i drosglwyddiad arian o Lwfans Staffio yr Aelod i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.

Yn ogystal â’r cynigion a amlinellir uchod, cytunodd y Bwrdd i ofyn am sylwadau ynghylch a allai unrhyw un o’r materion a nodir uchod gael effaith bosibl ar bobl sy’n uniaethu â’r nodweddion gwarchodedig fel y cânt eu diffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 6 Mehefin a 20 Gorffennaf 2018.

Penderfyniad

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ar 11 Hydref a chytunodd i weithredu’r holl gyngion, a fydd yn cael eu cyflwyno rhwng 1 Hydref 2018 a 1 Ebrill 2019. Ceir manylion llawn ynghylch gweithredu’r cynigion yn llythyr y Bwrdd at yr Aelodau.