Cyhoeddi y Penderfyniad ar y Chweched Senedd – dydd Iau 4 Mehefin

Cyhoeddwyd 04/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cyhoeddi ei Benderfyniad sy’n nodi’r tâl a’r lwfansau sydd ar gael i Aelodau o’r Senedd yn dilyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021.

Nod rhai o’r newidiadau a gynhwysir yn y Penderfyniad hwn yw sicrhau nad yw’r cymorth a’r tâl a gynigir i’r Aelodau yn atal pobl rhag sefyll etholiad i’r Senedd. Ymgynghorodd y Bwrdd ar newidiadau o’r fath yn gynharach eleni ac mae’r darpariaethau newydd yn y Penderfyniad hwn yn cynnwys:
– Lwfans i’r Aelodau i helpu i dalu costau mewn perthynas ag anabledd neu anableddau. Mae hwn yn ehangu’r ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes.
– Adnoddau ychwanegol i helpu gyda llwyth gwaith Aelod yn ystod cyfnod o absenoldeb rhiant.
– Cyfraniad tuag at gostau gofal i blant a / neu ddibynyddion pan fydd yn ofynnol i’r Aelodau weithio y tu hwnt i oriau sy’n ystyriol o deuluoedd, gan adlewyrchu trefniadau tebyg sydd ar waith ar gyfer aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru. Byddai ad-dalu costau o’r fath yn ddarostyngedig i derfyn misol penodol, a dim ond yn daladwy am ofal a ddarperir gan ddarparwyr gofal rheoleiddiedig.

Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i gyhoeddi’r Penderfyniad hwn tua blwyddyn cyn yr etholiad er mwyn rhoi eglurder ar y tâl a’r cymorth a fydd ar gael i’r rhai sy’n ystyried sefyll etholiad os cânt eu hethol yn Aelodau o’r Senedd.

Mae paratoi’r Penderfyniad hwn wedi’i lywio gan ymchwil a gomisiynwyd gan y Bwrdd i’r rhwystrau a’r cymhellion i sefyll etholiad i’r Senedd, yn ogystal ag ymgynghori â’r Aelodau etholedig, eu staff, pleidiau gwleidyddol, rhanddeiliaid a’r cyhoedd.

Dywedodd y Fonesig Dawn Primarolo, Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd y canlynol:

“Mae Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar gyfer y Chweched Senedd yn nodi darpariaethau newydd sydd â’r nod penodol o gael gwared ar rwystrau rhag dod yn Aelod o’r Senedd. Ein nod yw helpu i gynyddu amrywiaeth yn yr aelodaeth.
“Mae ein cynrychiolwyr etholedig â rhan hynod bwysig yn ein bywydau. Rydym yn ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau ar ein rhan sy’n llywio’r byd o’n cwmpas. Wrth wraidd ein penderfyniadau y mae ein dymuniad i gael gwared ar rwystrau posibl a allai, fel arall, atal pobl sydd â’r gallu a’r ymrwymiad i fod yn Aelodau o’r Senedd rhag sefyll etholiad ac annog amrywiaeth mewn cynrychiolaeth. Nod cymorth o’r fath yw helpu pobl ag anableddau a gofalwyr, er enghraifft, drwy sicrhau bod mwy o gymorth ar gael pan fo angen i’r Aelodau hynny ymgymryd â’u dyletswyddau seneddol yn effeithiol.

“Mae’r Bwrdd wedi ceisio defnyddio’r Penderfyniad presennol mewn modd sy’n helpu’r Aelodau i addasu i heriau’r pandemig presennol a sicrhau cydnerthedd yn y Senedd. Hyderwn y bydd y Penderfyniad diwygiedig a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi’r Chweched Senedd i ymateb yn effeithiol i heriau yn y dyfodol.
“Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r gwaith i ddatblygu’r Penderfyniad hwn drwy rannu syniadau a barn â ni.”

Mae’r Penderfyniad hefyd yn adlewyrchu penderfyniadau’r Bwrdd ar gyflogau’r Aelodau ar gyfer y Senedd nesaf sy’n seiliedig ar bwysigrwydd a chymhlethdod rolau’r Aelodau a maint eu cyfrifoldebau.

Ar gyflogau’r Aelodau, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd y canlynol:
“Mae’n debygol y bydd datblygiadau cyfansoddiadol presennol yn effeithio ar y Senedd maes o law, er enghraifft sut y mae pwerau’n cael eu dychwelyd yn dilyn Brexit a’r posibilrwydd y bydd newidiadau i faint y Senedd fel sy’n cael ei drafod gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. Fodd bynnag, nid yw effaith newidiadau posibl o’r fath ar rolau a chyfrifoldebau’r Aelodau yn glir ar hyn o bryd. Felly, mae’r Bwrdd wedi penderfynu y dylid cynnal y trefniadau cyflog presennol ar gyfer y Senedd nesaf.”

Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
Adroddiad ar Adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd