Cylch gwaith

Cyhoeddwyd 01/11/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/10/2023   |   Amser darllen munudau

Sefydlwyd Bwrdd Taliadau annibynnol y Cynulliad yn 2010 i bennu cyflogau a lwfansau Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyma’r ail Fwrdd Taliadau.

Ar 6 Mai 2020 daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru, a chyfeirir at y sefydliad yn gyffredin fel y Senedd. O ganlyniad, enw’r Bwrdd bellach yw Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.

Sefydlwyd Panel Adolygu Annibynnol ym mis Awst 2008 gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd, i edrych ar bob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad; gan gynnwys cyflog a lwfansau ar gyfer teithio, llety, swyddfeydd etholaeth a staff cymorth. Yn dilyn yr adolygiad annibynnol, cyflwynodd y Panel adroddiad i’r Comisiwn yn 2009. Derbyniodd Comisiwn y Cynulliad ar y pryd bob un o’r 108 o argymhellion y Panel. Un o’r rhain oedd sefydlu Corff Adolygu Annibynnol statudol, sy’n annibynnol ar y Cynulliad.

Cyflwynwyd Mesur yn sgil hynny i sefydlu Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010) a chafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 21 Gorffennaf 2010.

Mae’r Bwrdd yn gorff statudol annibynnol sy’n gyfrifol am y canlynol:

  • sicrhau bod gan Aelodau’r Senedd lefel o dâl sy’n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y disgwylir iddynt eu cyflawni, ac nad yw, am resymau ariannol, yn rhwystro pobl sydd â’r ymrwymiad a’r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol i’r Senedd;
  • sicrhau bod gan Aelodau’r Senedd adnoddau digonol i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau fel Aelodau;
  • sicrhau uniondeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder o ran gwario arian cyhoeddus.

Mae’n ofynnol i’r Bwrdd weithredu mewn modd agored a thryloyw ac ymgynghori â’r rhai y mae’r gwaith o arfer ei swyddogaethau yn debygol o effeithio arnynt, os bydd o’r farn bod hynny’n briodol.

Caiff costau’r Bwrdd a’r treuliau a gaiff eu hawlio gan aelodau’r Bwrdd eu cyhoeddi ar ddiwedd ei adroddiad blynyddol.

Mae agenda a chofnodion pob un o gyfarfodydd ffurfiol y Bwrdd ar gael ar wefan y Bwrdd.

Mae aelodau’r Bwrdd yn cael eu penodi gan Gomisiwn y Senedd ac yn aros yn y swydd am gyfnod penodol o bum mlynedd. Dechreuodd y Bwrdd presennol ei gyfnod yn y swydd ym mis Medi 2020. 

 

Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd: Egwyddorion Llywodraethu a chanllawiau ar gynnal busnes