Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2019-20

Cyhoeddwyd 21/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd y Bwrdd yn adolygu’r Penderfyniad yn flynyddol i sicrhau bod y lwfansau a ddarperir yn parhau’n briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Ceir manylion am gynigion y Bwrdd parthed y lwfansau ar gyfer 2019-20 isod:

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2019-20

Trafododd y Bwrdd y lwfans costau swyddfa ac a yw’n parhau i fod yn briodol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.

Nododd y Bwrdd fod y Lwfans Costau Swyddfa ar gyfer 2018-19 wedi cynyddu 5 y cant yn unol â’r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) ar gyfer Medi 2017 o 3 y cant a’r gofynion cost ychwanegol y disgwylir i Aelodau eu cyllido o’u cyllideb.

Roedd y Bwrdd o’r farn bod gwariant yr Aelodau ar y lwfans yn dangos bod y lwfans presennol yn ddigonol ac yn sgil hyn wedi penderfynu cadw’r lwfansau £18,260 a £4,912 ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.

Gwariant ar lety preswyl ar gyfer 2019-20

Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau o ran y gwariant ar lety preswyl ar gyfer 2019-20, gan gynnwys gwariant yr Aelodau ar y lwfans hwn a’r farchnad rent lleol.

Wrth ystyried priodoldeb y lwfans o £9,300 y flwyddyn ar gyfer Aelodau ardal allanol, nododd y Bwrdd na fu unrhyw newid i’r lwfans hwn ers y Penderfyniad ar gyfer 2017-18. Fel y gwnaethpwyd yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Bwrdd yn cymharu cost rhent cyfartalog eiddo un a dwy ystafell wely ym Mae Caerdydd a’r gwariant cyfartalog ar y lwfans. Fel gyda’i adolygiad o’r lwfans costau swyddfa, cytunodd y Bwrdd y dylid cynyddu’r lwfans hwn gyda’r gyfradd mynegai prisiau defnyddwyr o fis Medi 2018, sef 2.4 y cant. Byddai hyn yn cynyddu’r lwfans o £775/y mis i £795 /y mis.

Felly mae’r Bwrdd yn bwriadu cynyddu’r lwfans Gwariant Llety Preswyl ar gyfer Aelodau ardal allanol gan 2.4 y cant yn unol â’r gyfradd mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer Medi 2018.

Mae’r Bwrdd wedi penderfynu y dylid cynnal yr uchafswm ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol, sef £882 y flwyddyn a’r uchafswm costau rhent ar gyfer Aelodau â dibynyddion, sef £120 y mis ar gyfer 2019-20.

Mae’r Bwrdd hefyd wedi ystyried priodoldeb y lwfans o £3,420 y flwyddyn ar gyfer yr Aelodau ardal ganolradd, sydd wedi aros ar yr un lefel ers ei gyflwyno. Nododd y Bwrdd fod y lwfans presennol yn seiliedig ar aros un noson mewn gwesty ar gost o £95/nos yng Nghaerdydd bob wythnos eistedd o’r Cynulliad (yn seiliedig ar 36 wythnos eistedd y flwyddyn). I adlewyrchu gofynion cynyddol busnes y Cynulliad ers i’r lwfans gael ei gyflwyno gyntaf, mae’r Bwrdd yn bwriadu cynyddu’r lwfans i £6,840 y flwyddyn.

Gan gofio y gall Aelodau ddefnyddio’r lwfans ardal ganolradd tuag at gostau eiddo rhent yn ychwanegol at arosiadau gwesty, cytunodd y Bwrdd i ddiwygio geiriad y ddarpariaeth yn unol â hynny i adlewyrchu’r defnydd deuol.

Felly mae’r Bwrdd yn bwriadu cynyddu’r lwfans Gwariant Llety Preswyl ar gyfer Aelod ardal ganolradd i £6,840 y flwyddyn ac i roi eglurhad ar y defnydd deuol o’r lwfans.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 22 Ionawr a 12 Mawrth 2019.