Ymgynghoriadau

Cyhoeddwyd 21/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/02/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 yn gosod dyletswydd ar y Bwrdd i ymgynghori â’r rhai y mae unrhyw un o’i newidiadau arfaethedig i’r Penderfyniad a’r pecyn cymorth a gynigir i’r Aelodau a’r staff cymorth yn debygol o effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori â’r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Aelodau o’r Senedd;
  • staff a gyflogir gan Aelodau o’r Senedd (neu gan grwpiau o Aelodau);
  • undebau llafur perthnasol;
  • rhanddeiliaid perthnasol.

Mae modd gweld manylion am ymgynghoriadau’r gorffennol a’r rhai sy’n dal i fynd rhagddynt gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol presennol.

Os hoffech ymateb i unrhyw un o ymgynghoriadau’r Bwrdd sy’n dal i fynd rhagddynt, ymgyfarwyddwch â pholisi preifatrwydd y Bwrdd.