Cwestiynau cyffredin

Cyhoeddwyd 01/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2021   |   Amser darllen munudau

Pam y sefydlwyd y Bwrdd Taliadau?

Sefydlwyd Panel Adolygu Annibynnol ym mis Awst 2008 gan Comisiwn y Senedd ar y pryd, i edrych ar bob agwedd ar y cymorth ariannol a oedd ar gael i Aelodau'r Cynulliad; gan gynnwys cyflog a lwfansau ar gyfer teithio, llety, swyddfeydd etholaeth a staff cymorth. Yn dilyn yr adolygiad annibynnol, cyflwynodd y Panel adroddiad i'r Comisiwn yn 2009. Derbyniodd Comisiwn y Senedd ar y pryd bob un o'r 108 o argymhellion y Panel. Un o'r rhain oedd sefydlu Corff Adolygu Annibynnol statudol, sy'n annibynnol ar y Senedd Cymru.

Cyflwynwyd Mesur yn sgil hynny i sefydlu Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010) a chafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 21 Gorffennaf 2010.

Ar 6 Mai 2020 daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru, a chyfeirir at y sefydliad yn gyffredin fel y Senedd. O ganlyniad, enw’r Bwrdd bellach yw Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.

Beth mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol yn penderfynu arno?

Nodir swyddogaethau'r Bwrdd yn adran 3 o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, ac maent yn ymwneud â gwneud Penderfyniad ynghylch taliadau pob Aelod o'r Senedd a thaliadau atodol i'r rhai sy'n cyflawni cyfrifoldebau ychwanegol. At hynny, mae'n ofynnol i'r Bwrdd benderfynu ynghylch system lwfansau Aelodau o'r Senedd a staff cymorth.

Mae'r Mesur hefyd yn nodi tri amcan y mae'n rhaid i'r Bwrdd geisio eu cyflawni wrth wneud Penderfyniad, sef:

  • darparu lefel o dâl i Aelodau o'r Senedd sy'n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y disgwylir iddynt eu cyflawni ac nad yw, am resymau ariannol, yn atal pobl sydd â'r ymrwymiad a'r gallu angenrheidiol rhag cael eu hethol yn Aelodau o'r Senedd;
  • darparu adnoddau digonol i Aelodau o'r Senedd allu arfer eu swyddogaethau fel Aelodau o'r Senedd;
  • gwneud yn siŵr bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd sy'n sicrhau uniondeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.
Pwy sy'n aelodau o'r Bwrdd Taliadau Annibynnol?

Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 yn nodi bod yn rhaid cael Cadeirydd a phedwar aelod i sefydlu'r Bwrdd. Rhaid i'r unigolion hyn fod ag amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys:

  • profiad o fywyd cyhoeddus a dealltwriaeth drylwyr o’r materion sy’n gysylltiedig â’r ddadl gyhoeddus ynglŷn â safonau mewn bywyd cyhoeddus;
  • dealltwriaeth drylwyr o waith cyrff a gaiff eu hethol yn ddemocrataidd a’r cyd-destun datganoledig;
  • ymagwedd annibynnol, deg, realistig a chadarn;
  • doethineb eithriadol wrth ymdrin â materion sensitif neu uchel eu proffil;
  • gwybodaeth a phrofiad penodol o daliadau, pensiynau neu faterion cysylltiedig, yn enwedig o safbwynt cyflogau yn y sector cyhoeddus, a chan gynnwys profiad o gyrff adolygu cyflogau.

Dyma aelodau'r Bwrdd ar hyn o bryd:

  • Y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd)
  • Ronnie Alexander (aelod o'r Bwrdd),
  • Trevor Reaney (aelod o'r Bwrdd),
  • Mike Redhouse (aelod o'r Bwrdd);
  • Jane Roberts (aelod o'r Bwrdd).

I gael gwybod mwy, beth am ddarllen eu bywgraffiadau llawn.

Sut mae'r aelodau'n cael eu penodi i'r Bwrdd?

Mae Clerc y Bwrdd yn sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn cael eu penodi trwy broses deg ac agored fel y'i hamlinellir yn Atodlen 2 o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

Hysbysebir swyddi gwag ar wefan Senedd Cymru a cheir cyfeiriad atynt mewn ffynonellau perthnasol eraill.

Rhaid i Gomisiwn y Senedd gymeradwyo pob penodiad i'r Bwrdd a bydd pob aelod o'r Bwrdd yn dal y swydd am gyfnod penodol o bum mlynedd o ddyddiad ei benodiad. Dim ond am hyd at ddau dymor y gall unrhyw un fod yn aelod o'r Bwrdd.

Faint mae gwaith y Bwrdd yn ei gostio?

Mae'r Bwrdd Taliadau yn gyfrifol am benderfynu ynglŷn â'r cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd ac am sicrhau proses dryloyw sy'n ennyn hyder y cyhoedd. Mae hon yn rôl hollbwysig â phroffil uchel sy'n gofyn am unigolion â sgiliau, profiad a rhinweddau personol eithriadol. Bydd aelodau'r Bwrdd yn y swydd am bum mlynedd. Byddant yn cael eu talu am eu gwaith yn unol â'r cyfraddau sy'n cael eu talu i ddeiliaid swyddi tebyg eraill sy'n cynghori'r Senedd Cymru. Y cyfraddau dyddiol yw £333 ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd a £267 ar gyfer aelodau'r Bwrdd. Bydd costau gwaith y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'i adroddiad blynyddol.

Sut y gall aelodau'r cyhoedd fynegi eu barn?

  Fel yr amlinellir ym Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, rhaid i'r Bwrdd ymgynghori â'r rhai y mae ei benderfyniadau yn debygol o effeithio arnynt, oni bai bod amgylchiadau sy'n golygu ei bod yn amhriodol gwneud hynny. Cyhoeddir holl gynigion y Bwrdd ar ei wefan a bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl ymatebion cyn cytuno ar y ffordd ymlaen. Ceir manylion ar sut y gallwch rannu eich barn â'r Bwrdd ar ein tudalen gyswllt

Beth yw'r Grwpiau Cynrychiolwyr?

Mae'r Bwrdd yn gweithredu'n annibynnol ar Comisiwn y Senedd a'r pleidiau gwleidyddol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gwaith y Bwrdd yn seiliedig ar sefyllfa wirioneddol cefnogi Aelod o'r Senedd i gyflawni ei rôl, mae wedi sefydlu dau Grŵp Cynrychiolwyr, sef Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau o'r Senedd a Grŵp Cynrychiolwyr staff cymorth Aelodau.

Gofynnir i bob grŵp gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd enwebu ei gynrychiolydd neu ei gynrychiolwyr i fod yn rhan o'r grwpiau. Yn ogystal â staff cymorth sy'n rhannu barn eu pleidiau priodol, mae gan Grŵp Cynrychiolwyr staff cymorth Aelodau o'r Senedd hefyd gynrychiolwyr undeb llafur y mae'n rhaid iddynt gynrychioli barn holl aelodau'r undeb llafur hwnnw, ni waeth beth fo'u plaid.

Mae'r Grŵp Cynrychiolwyr yn rhoi cyngor i'r Bwrdd wrth iddo lunio ei flaenraglen waith. Mae'n rhoi barn am ganfyddiadau'r Bwrdd wrth iddynt ddod i'r amlwg, a bydd yn cynorthwyo'r Bwrdd i sicrhau bod ei waith yn arwain at argymhellion ymarferol. Fodd bynnag, mae'r Grwpiau Cynrychiolwyr hefyd yn rhoi cyfle i'r grwpiau gwleidyddol roi gwybod i'r Bwrdd beth yw eu barn am faterion ymarferol sydd ynghlwm wrth y Penderfyniad.

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd â'r ddau Grŵp Cynrychiolwyr. Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn breifat.

Faint o dâl y mae Aelodau'r Cynulliad a deiliaid swyddi yn ei gael ar hyn o bryd?

Nodir yn y tabl isod faint o dâl y mae Aelodau o'r Senedd a deiliaid swyddi yn ei gael ar hyn o bryd:

Cyflogau deiliaid swyddi Cyflog sylfaenol 2021-22 Cyflog ychwanegol 2021-22 Cyfanswm cyflog 2021-22
Y Prif Weinidog £67,649 £80,334 £147,983
Gweinidogion Cymru £67,649 £38,052 £105,701
Y Cwnsler Cyffredinol[1] £67,649 £38,052 £105,701
Dirprwy Weinidog £67,649 £22,197 £89,846
Y Llywydd £67,649 £43,338 £110,987
Y Dirprwy Lywydd £67,649 £22,197 £89,846
Comisiynwyr y Senedd £67,649 £13,741 £81,390
Cadeiryddion pwyllgorau (uwch) £67,649 £13,741 £81,390
Cadeiryddion pwyllgorau (is) £67,649 £9,154 £76,803
Aelod o’r Pwyllgor Busnes £67,649 £9,154 £76,803
Arweinydd Grŵp Gwleidyddol nad yw yn y Llywodraeth[2] £67,649 £13,741 + £1,057 fesul aelod hyd at £38,052 Ystod o

£84,561- £105,701

[1] Cwnsler Cyffredinol nad yw’n Aelod o'r Senedd

[2] Diffinnir Grŵp Gwleidyddol yn Rheolau Sefydlog y Senedd Cymru

Er mwyn cael y cyflogau hyn, rhaid i Aelodau o'r Senedd:

  • fod wedi tyngu'r llw teyrngarwch neu wedi gwneud y cadarnhad sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith;
  • bod yn Aelod o'r Senedd Cymru yn unig. Os bydd Aelodau hefyd yn Aelodau Seneddol neu'n Aelodau o Senedd Ewrop, tynnir o'u cyflog Cynulliad swm sy'n hafal â dwy ran o dair o'r cyflog sylfaenol y byddai ganddynt yr hawl i'w gael fel arall, yn unol ag adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Bydd gan Aelod sy’n gwneud mwy nag un o’r swyddi a bennir yn y tabl uchod hawl i gael cyflog ychwanegol ar gyfer un yn unig o’r swyddi hynny, sef yr uchaf ei thâl o blith y swyddi hynny.

Pa lwfansau y mae Aelodau o'r Senedd yn eu cael i'w cefnogi yn eu rôl?

Yn gyffredinol, bydd hawliadau am dreuliau'n dod dan un o dri prif fath o lwfans:

  • Lwfans Costau Swyddfa (h.y. costau swyddfa sy'n gysylltiedig â'u dyletswyddau fel Aelod o'r Senedd).
  • Lwfans Costau Ychwanegol (h.y. treuliau yr eir iddynt wrth aros dros nos i ffwrdd o'u prif gartref at ddibenion cyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau o'r Senedd).
  • Lwfans Costau Teithio (h.y. costau teithio y bydd Aelodau o'r Senedd yn mynd iddynt oherwydd eu dyletswyddau yn y Senedd).

Mae lwfans gwariant staffio hefyd ar gael i'r Aelodau er mwyn talu cyflogau eu staff. Cyfanswm y lwfans, ar hyn o bryd, yw £99,226 fesul Aelod o'r Senedd a dim ond i dalu cyflog tri aelod o staff cyfwerth ag amser llawn y gellir ei ddefnyddio.

Beth yw'r Penderfyniad?

Mae'r Penderfyniad yn nodi'r cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd i'w galluogi i gyflawni eu rôl fel Aelodau o'r Senedd. Ceir crynodeb o'r Penderfyniad yma.

Pryd mae'r Bwrdd yn cyfarfod?

Fel arfer, mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn Nhŷ Hywel tua phump neu chwe gwaith y flwyddyn, er y gall hyn newid gan ddibynnu ar raglen waith y Bwrdd. Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 yn caniatáu i'r Bwrdd gyfarfod yn breifat os yw'n barnu bod hynny'n angenrheidiol. O gofio natur y trafodaethau, cynhelir y rhan fwyaf o gyfarfodydd y Bwrdd yn breifat.

Yn dilyn y cyfarfod, caiff crynodeb o'r trafodaethau ei anfon at Aelodau o'r Senedd a staff cymorth Aelodau o'r Senedd, a'u cyhoeddi ar dudalen we'r Bwrdd. Cyhoeddir cofnod o bob cyfarfod, un cyfarfod am yn ôl.