Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd
Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd
Croeso
Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau'r Senedd y tâl a'r adnoddau priodol sydd ar gael iddynt i ymgymryd â'u rôl. Mae hyn yn cynnwys pennu cyflogau'r Aelodau, yn ogystal â'u costau staffio a busnes.
Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd
Mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cyhoeddi'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd sy'n nodi'r costau cyflog, staffio a busnes sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd yn dilyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026.
Mae'r Bwrdd hefyd wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y Penderfyniad terfynol ar gyfer y Seithfed Senedd.
Manylion Cyswllt
Clerc y Bwrdd Taliadau,
Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
CF99 1SN
Aelodau'r Bwrdd
Penodir aelodau’r Bwrdd gan Gomisiwn y Senedd am gyfnod penodol o bum mlynedd. Amlinellir aelodaeth y Bwrdd presennol isod.
Dr. Elizabeth Haywood
Yr Arglwydd Nicholas Bourne
Gareth Llewellyn
Jennifer Long
Hugh WiddisY Penderfyniad
Mae'r Penderfyniad ar Gyflogau Aelodau o ran Cyflog, Staff a Busnes (a elwir yn fwy cyffredin yn "Benderfyniad") yn nodi'r darpariaethau cyflog a chymorth uniongyrchol sydd ar gael i Aelodau'r Senedd i gynorthwyo gyda'u dyletswyddau fel Aelod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol gymorth a ddarperir drwy'r Penderfyniad yma: Am y Penderfyniad.