Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau: Hyblygrwydd y lwfansau i Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 21/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar nifer o faterion a godwyd ynghylch hyblygrwydd y lwfansau yn y Penderfyniad yn sgîl yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau a’r staff cymorth. Roedd y Bwrdd yn cynnig:

  • caniatáu i’r Lwfans Staffio ar gyfer Aelodau sy’n weddill gael ei gyfrifo yn ôl y gost wirioneddol yn hytrach na’r gost uchaf posibl;
  • cyhoeddi’r gwariant y mae pob Aelod unigol yn ei wneud ar ei Lwfans Staffio. Byddai hwn yn gyhoeddiad blynyddol o gyfanswm gwariant yr Aelod yn ystod blwyddyn ariannol ar staffio;
  • dileu’r terfyn uchaf o 111 o oriau ar staff a gyflogir yn barhaol;
  • caniatáu i’r Aelodau drosglwyddo hyd at 25 y cant o’u Lwfans Costau Swyddfa i’w Lwfans Staffio. Hefyd, mae’r Bwrdd yn cynnig caniatáu i’r Aelodau drosglwyddo’r arian sydd ar gael iddynt trwy’r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu i’w Lwfans Staffio (hyd at £2,500).

Yn ogystal â’r cynigion a amlinellir uchod, cytunodd y Bwrdd i ofyn am sylwadau ynghylch a allai unrhyw un o’r materion a nodir uchod gael effaith bosibl ar bobl sy’n uniaethu â’r nodweddion gwarchodedig fel y cânt eu diffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 27 Mawrth a 11 Mai 2018.

Penderfyniad

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ar 24 Mai a chytunodd i weithredu’r holl gyngion, a fydd yn cael eu cyflwyno rhwng 1 Hydref 2018 a 1 Ebrill 2019. Ceir manylion llawn ynghylch gweithredu’r cynigion yn llythyr y Bwrdd at yr Aelodau.