Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau a’r adolygiad o’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno

Cyhoeddwyd 21/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ei gyfarfod ar 11 Hydref bu’r Bwrdd Taliadau yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law fel rhan o’i adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau a’r adborth cychwynnol a gafwyd ar y Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno. Ar ôl ystyried y materion hyn, cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion yn sgil yr adolygiad o gymorth staffio a’r newidiadau arfaethedig i’r ddwy Weithdrefn. Mae manylion y cynigion wedi’u hamlinellu yn y ddogfen ymgynghori.

Adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau

Fel y byddwch o bosibl yn gwybod, mae’r Bwrdd wedi cynnal dau ymgynghoriad fel rhan o’i adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau. Roedd y cyntaf o’r rhain yn canolbwyntio ar gyflwyno rhagor o hyblygrwydd i Aelodau, tra roedd yr ail yn trafod rhoi hyblygrwydd i Bleidiau Gwleidyddol o ran defnyddio eu lwfansau.

Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod ei adolygiad, yng nghyd-destun y materion hynny sy’n weddill yn ei gylch gorchwyl, yn ei gyfarfod ar 11 Hydref, a chytunodd i ymgynghori ar ddiwygio nifer o ddarpariaethau yn ei Benderfyniad. Mae manylion llawn yr ymgynghoriad wedi’u cyhoeddi ar wefan y Bwrdd, ac maent i’w gweld yn yr atodiad i’r llythyr hwn. Nodir crynodeb o’r cynigion ymgynghori isod:

  • diwygio sut y caiff cyflogaeth aelodau o deulu’r Aelod a phartneriaid ei hariannu;
  • cyflwyno diwrnodau braint i staff cymorth;
  • cyflwyno polisi ffurfiol ynghylch absenoldeb tosturiol i staff cymorth;
  • addasu cyflog staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn rhoi trosolwg o’r materion y mae’r Bwrdd wedi’u trafod fel rhan o’r adolygiad ond y mae wedi penderfynu, yn sgil y dystiolaeth a ddaeth i law, i beidio â chynnig unrhyw ddiwygiadau i’r darpariaethau ar hyn o bryd. Er gwybodaeth, bydd rhai o’r materion hyn yn cael eu trafod fel rhan o adolygiad y Bwrdd o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Y Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno

Mae’r Bwrdd wedi cytuno i adolygu’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno yn sgil cyhoeddi’r Polisi Urddas a Pharch newydd. Yn ei gyfarfod ym mis Hydref, trafododd y Bwrdd yr adborth cychwynnol a gafodd ar y ddwy weithdrefn, ac mae wedi cytuno i ymgynghori ar nifer o gynigion i ddiwygio’r ddwy weithdrefn. Mae manylion y cynigion ymgynghori hyn wedi’u nodi yn y ddogfen ymgynghori.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 24 Hydref a 13 Rhagfyr 2018.

Penderfyniad

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr, a chytunodd i ddiwygio ei gynigion gwreiddiol. Nodir y manylion llawn am benderfyniadau’r Bwrdd yn y llythyr diweddaru.