Rhaglen Waith Strategol
Mae ein rhaglen waith strategol, y cytunwyd arni yn 2022, yn pennu ein dull gweithredu ar gyfer gweddill tymor y Senedd. Bydd y rhaglen yn llywio'r adolygiadau blynyddol o'r Penderfyniad yn ogystal â llunio Penderfyniad newydd ar gyfer y Seithfed Senedd, yng nghyd-destun y cynigion Diwygio’r Senedd.
Mae’r rhaglen waith strategol yn cynnwys pum adolygiad thematig, a phob un yn cael ei gydlynu gan aelod arweiniol o’r Bwrdd:
- Ffyrdd o Weithio – Syr David Hanson
- Symleiddio – Hugh Widdis
- Cymorth staffio – Mike Redhouse
- Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol – Jane Roberts
- Taliadau a chymorth personol i’r Aelodau – Elizabeth Haywood
Ffyrdd o weithio
Mae'r adolygiad hwn, sy'n cael ei arwain ar ran y Bwrdd gan Syr David Hanson, yn canolbwyntio ar y modd y dylid addasu lwfansau’r Aelodau i gynnwys newidiadau yn y ffordd y mae’r Aelodau’n gweithio, yn enwedig lwfans y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr
Lwfansau i roi cymorth ar gyfer Gweithio Gartref a Gweithio Hybrid
Symleiddio
Mae'r adolygiad hwn, sy'n cael ei arwain ar ran y Bwrdd gan Hugh Widdis, yn canolbwyntio ar symleiddio'r Penderfyniad i ddarparu hyblygrwydd i Aelodau i bennu eu blaenoriaethau eu hunain, gyda mesurau diogelwch cymesur, mewn cydweithrediad â Chomisiwn y Senedd.
Cymorth Staffio
Mae’r adolygiad hwn, a arweinir gan Mike Redhouse ar ran y Bwrdd, yn ystyried gofynion cymorth staffio Aelodau o’r Seithfed Senedd.
Roedd Cam Un o’r adolygiad yn cynnwys gwerthusiad annibynnol o’r fframwaith tâl a graddio presennol ar gyfer Staff Cymorth y Senedd. Yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol, comisiynwyd un o brif ymgyngoriaethau gwerthuso swyddi a hyfforddi’r DU, Beamans, i gasglu tystiolaeth ar y fframwaith tâl a graddio presennol a gwneud argymhellion ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen.
Cynhaliodd Beamans yr adolygiad yn ystod mis Hydref 2023-Mawrth 2024 gan gynnwys ymgysylltu â nifer sylweddol o Aelodau a Staff Cymorth, a chyflwynodd ei adroddiad terfynol ddiwedd mis Mawrth. Mae’r adroddiad ac ymateb y Bwrdd i’r adroddiad i’w gweld isod.
Mae’r Bwrdd wedi ymgynghori â’r Aelodau, Staff Cymorth, undebau llafur a Chomisiwn y Senedd ar y model a ffefrir gan y Bwrdd ar gyfer fframwaith tâl a graddio newydd. Bydd y Bwrdd yn ceisio arbenigedd allanol i helpu i ddylunio a datblygu’r fframwaith tâl a graddio newydd ar gyfer y Seithfed Senedd.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, bydd y Bwrdd hefyd yn dechrau ystyried Lwfans Staffio’r Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd, yn seiliedig ar ofynion cymorth staffio’r Aelodau.
Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad