Ceir trosolwg isod o’r materion y mae’r Bwrdd Taliadau wedi ymgynghori arnynt o’r blaen isod.
Mae manylion am ymgyngoriadau sy’n dal i fynd rhagddynt hefyd ar gael.
Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd 2025 - presennol
Cynnig i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gweithredu'r adolygiad o gyflogau a graddfeydd staff
Cafodd yr holl Aelodau o'r Senedd lythyr ar 22 Rhagfyr 2025 yn dilyn materion a phryderon a godwyd ynghylch yr heriau o weithredu'r fframwaith cyflogau a graddfeydd cyn dechrau tymor y Seithfed Senedd.
Cynhaliodd y Bwrdd ymgynghoriad rhwng 22 Rhagfyr 2025 a 16 Ionawr 2026, i geisio safbwyntiau ynghylch a ddylid ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gweithredu'r fframwaith cyflogau a graddfeydd tan 30 Mehefin 2026.
Cyfarfu'r Bwrdd ddydd Mercher 21 Ionawr i drafod yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad. Ceir rhagor o wybodaeth am benderfyniadau a wnaeth y Bwrdd ar hyn, a materion eraill, yn eu llythyr penderfyniad ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Ionawr.
Yn dilyn hynny, mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi datganiad Penderfyniad eithriadol o dan adran 14(4) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Dau
Ymgynghorodd y Bwrdd ar nifer o gynigion fel rhan o Rhan Dau yr Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 4 Mehefin 2025.
Cyhoeddodd y Bwrdd Adroddiad ar ei Ymgynghoriad Rhan Dau - Adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd ar 29 Gorffennaf 2025
Ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad: cynigion ar gyfer 2025-26
Ymgynghorodd y Bwrdd ar nifer o gynigion fel rhan o'i adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Chwefror 2025.
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Un
Ymgynghorodd y Bwrdd ar nifer o gynigion fel rhan o Rhan Un yr Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Rhagfyr 2024.
Cyhoeddodd y Bwrdd Adroddiad ar ei Ymgynghoriad Rhan Un - Adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd ar 28 Mawrth 2025.