Mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cyhoeddi'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd sy'n nodi'r costau cyflog, staffio a busnes sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd yn dilyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026.
Cyfeirir at y dogfennau canlynol (drwy droednodiadau â linc http) yn y Penderfyniad.
- Cod Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau o’r Senedd
- Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd
- Cynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd
- Cynllun Pensiwn Enillion Gyrfa Cyfartalog Aelodau o'r Senedd - Canllaw ar gyfer Aelodau
- Contract Parhaol Staff Cymorth Aelodau'r Senedd a Staff Grŵp
- Aelodau o Gynllun Pensiwn Staff Cymorth y Senedd
- Fframwaith Dosbarthu Teuluoedd Swyddi - 29 Gorffennaf 2025
Mae'r Bwrdd hefyd wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y Penderfyniad terfynol ar gyfer y Seithfed Senedd.
Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ymgyngoriadau ar y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd ar gael yma.
Penderfyniadau a wnaed ynglŷn â'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd
Mae'r holl benderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd ynglŷn â'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd, a'r wybodaeth gefndir sy'n ymwneud â'r penderfyniadau hyn, ar gael isod.
- Penderfyniad ar Gostau Aelodau o ran Cyflog, Staff a Busnes 2026-27
- Datganiad Eithriadol ar y Penderfyniad – 30 Mawrth 2026
- Adroddiad ar yr ymgynghoriad ar y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd - Mawrth 2026
- Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg - Mawrth 2026
- Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb: Adendwm - Chwefror 2026
- Datganiad Eithriadol ar y Penderfyniad - 21 Ionawr 2026
- Llythyr penderfyniad ar y cynnig i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gweithredu'r adolygiad o gyflogau a graddfeydd staff - 21 Ionawr 2026
- Ymgynghoriad terfynol ar y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd - 15 Rhagfyr 2025
- Datganiad i'r Wasg: Cyflogau a chostau busnes Aelodau o’r Senedd wedi’u pennu ar gyfer y Senedd nesaf - 25 Medi 2025
- Llythyr Diweddariad at Aelodau – 10 Gorffennaf 2025
- Crynodeb o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd - 10 Gorffennaf 2025
Mae hyn yn cynnwys manylion cryno o'r cyflogau, pensiynau a chymorth adsefydlu a ddarperir i Aelodau a'r cymorth staffio ehangach (gan gynnwys cyflogau) a chostau busnes eraill, gan gynnwys cymorth i Aelodau anabl, Aelodau â chyfrifoldebau gofalu, llety dros nos, teithio a chymorth swyddfa etholaethol ac ymgysylltu.
Gofynnir i Aelodau sy'n ceisio cael eu hail-ethol adolygu rolau eu swyddi presennol yn erbyn y Fframwaith Dosbarthu Teuluoedd Swyddi cyn y dyddiad cau estynedig o 30 Mehefin 2026.