Rhaglen waith ar gyfer y dyfodol

Cyhoeddwyd 09/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/12/2023   |   Amser darllen munudau

Dyddiad y Cyfarfod

Materion dan ystyriaeth

 

12 Hydref 2023

Diogelwch – Diweddariad Blynyddol

Trafodaeth gychwynnol ar yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24

Diweddariad gan Gomisiwn y Senedd ynghylch Yswiriant Atebolrwydd Cyflogaeth Aelodau

Diweddariad gan Gomisiwn y Senedd ynghylch yr Adolygiad o’r Polisi Urddas a Pharch

Adolygiad thematig o ffyrdd o weithio – y wybodaeth ddiweddaraf a thrafodaeth o’r dystiolaeth a gasglwyd

Diwygio’r Senedd – y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth

30 Tachwedd 2023

Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024-25 – Cynigion ar gyfer yr Ymgynghoriad; 

8 Chwefror 2024

Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024-25 – trafod yr ymatebion a gafwyd.

Adolygiad thematig o ffyrdd o weithio – trafodaeth o’r dystiolaeth a gasglwyd drwy arolwg o’r Aelodau yn hydref 2023

Bydd y Bwrdd yn anelu at roi syniad o gylch cyfarfodydd y flwyddyn. Mae'n bosibl y bydd angen i'r Bwrdd newid ei raglen o bryd i'w gilydd ac efallai y bydd angen i'r Bwrdd gwrdd yn fwy rheolaidd os bydd angen.

Mae'r Bwrdd yn ystyried ac yn cytuno ar ei raglen waith ym mhob cyfarfod, bydd unrhyw newidiadau i'r rhaglen yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl, a bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi mewn llythyrau diweddariad yn dilyn cyfarfodydd y Bwrdd.