Ymgynghoriad: Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau – Hyblygrwydd y lwfansau

Cyhoeddwyd 06/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, trafododd y Bwrdd Taliadau y dystiolaeth a gafwyd hyd yn hyn yn ystod ei adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau. Trafododd y Bwrdd pa faterion y gall fod angen eu trafod ymhellach a pha faterion y gellid mynd i’r afael â hwy yn gynt ac, o ganlyniad, mae wedi penderfynu ymgynghori ar rai materion ar unwaith ac mae’n gwahodd ymatebion erbyn 11 Mai. Ceir trosolwg isod o drafodaethau’r Bwrdd a’r camau nesaf.

Cyflwyniad

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd o adolygiad y Bwrdd hyd yn hyn, sy’n cynnwys adborth gan yr Aelodau a’r staff cymorth, yn ogystal ag adolygiad blaenorol y Bwrdd o effeithiolrwydd y Penderfyniad, yn nodi bod cefnogaeth i gyflwyno mwy o hyblygrwydd i ddarpariaethau’r lwfans staffio a geir yn y Penderfyniad. Roedd yr adborth hwn yn cynnwys cyflwyno mwy o hyblygrwydd i’r Penderfyniad er mwyn mynd i’r afael â phwysau llwyth gwaith yn swyddfeydd yr Aelodau, y dewis i wario lwfansau ar staffio yn hytrach na threuliau eraill megis costau swyddfa a bod y strwythurau staffio presennol yn gyfyngol. Ar ôl trafod y sylwadau a ddaeth i law, mae’r Bwrdd yn trafod a ddylid rhoi’r newidiadau a ganlyn ar waith er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Aelodau wrth iddynt roi gwahanol elfennau o’r Penderfyniad ar waith. Bwriad y cynigion hyn yw cael yr effaith o gynyddu’r defnydd hyblyg o’r lwfansau presennol heb eu cynyddu.

Cyllidebu’r Lwfans Staffio ar bwyntiau cyflog gwirioneddol

Trafododd y Bwrdd y mater o gyfrifo’r Lwfans Staffio ar bwyntiau cyflog gwirioneddol yn hytrach na’r uchafswm costau posibl yn ôl yr arfer presennol.

Ar hyn o bryd, cyfrifir costau staffio ar yr “Uchafswm Cost Posibl” fel yr amlinellir yn adran 7.2 y Penderfyniad. Y gwahaniaeth rhwng yr uchafswm cost a’r Lwfans Staffio yw’r “Balans sy’n Weddill”. Y Balans hwn sydd ar gael i’r Aelodau dalu am gostau staffio eraill megis staff a gyflogir ar gontractau cyfnod penodol, lleoliadau gwaith ac interniaid, costau teithio staff a goramser. Ni chaniateir ei ddefnyddio i gyflogi staff parhaol.

Yn dilyn yr adborth a gafwyd yn galw am fwy o hyblygrwydd yn y system ac i fynd i’r afael â’r mannau lle mae pwysau mawr, mae’r Bwrdd yn cynnig caniatáu i’r Aelodau gyfrifo’r balans sy’n weddill o’r Lwfans Staffio ar y gost wirioneddol yn hytrach na’r uchafswm cost posibl. Gan y gall y Balans sy’n Weddill newid yn ystod y flwyddyn wrth i staff adael ac ymuno ac yr eir i gostau eraill, ni fydd dim newid i’r darpariaethau ynghylch sut y gellir defnyddio’r balans hwn.

Ochr yn ochr â’r cynnig hwn, mae’r Bwrdd hefyd yn cynnig cyhoeddi’r gwariant y mae pob Aelod unigol yn ei wneud ar ei Lwfans Staffio. Byddai hyn yn gyhoeddiad blynyddol o gyfanswm gwariant yr Aelod yn ystod blwyddyn ariannol ar staffio.

Dileu’r terfyn uchaf o 111 o oriau ar staff cymorth a gyflogir yn barhaol

Trafododd y Bwrdd y mater o ran y terfyn uchaf o 111 o oriau ar staff cymorth a gyflogir yn barhaol ac a yw’n briodol o hyd. Trafododd yr adborth a gafodd a oedd yn ffafrio dileu’r terfyn uchaf. Dangosodd arolwg y Bwrdd ar effeithiolrwydd y Penderfyniad y llynedd fod dros hanner yr Aelodau a’r staff cymorth a ymatebodd i’r arolwg yn nodi bod y terfyn uchaf ar gyflogaeth yn wael neu’n wael iawn. Roedd rhywfaint o gefnogaeth hefyd i ddileu’r terfyn uchaf gan yr Aelodau a’r staff cymorth yn ystod y cyfweliadau a’r arolygon a gynhaliwyd fel rhan o’r adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau.

Mae paragraff 7.1.2 o’r Penderfyniad yn nodi y “caiff Aelodau hawlio lwfans i dalu costau cyflog hyd at dri o staff cyfwerth ag amser llawn” hyd at derfyn uchaf o 111 o oriau.

Mae’r Bwrdd yn cynnig dileu’r terfyn uchaf o 111 o oriau ar staff a gyflogir yn barhaol. O ganlyniad i hyn, byddai swm yr oriau a band staff ychwanegol y gall Aelod fod am eu cyflogi yn dibynnu ar y balans sy’n weddill o’i Lwfans Staffio ar ôl cyfrif am yr holl godiadau cyflog blynyddol cytundebol.  

Trosglwyddo rhwng cyllidebau 

Trafododd y Bwrdd yr adborth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad hwn a’i adolygiad o effeithiolrwydd y Penderfyniad, a nododd y ddau ffafriaeth tuag at fwy o hyblygrwydd rhwng y lwfansau.

Mae Adran 7.5 o Benderfyniad y Bwrdd yn caniatáu i Aelod drosglwyddo hyd at 25 y cant o’i Lwfans Staffio i’w Lwfans Costau Swyddfa. At hynny, caiff yr Aelodau dynnu arian ar gyfer eu Lwfans Costau Swyddfa o flynyddoedd ariannol yn y dyfodol, er na chânt gario arian ymlaen i flwyddyn ariannol yn y dyfodol.

Mae’r Bwrdd yn cynnig caniatáu i’r Aelodau drosglwyddo hyd at 25 y cant o’u Lwfans Costau Swyddfa i’w Lwfans Staffio. Hefyd, mae’r Bwrdd yn cynnig caniatáu i’r Aelodau drosglwyddo’r arian sydd ar gael iddynt trwy’r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu i’w Lwfans Staffio (hyd at £2,500). Mae’r newidiadau hyn yn ychwanegol at y darpariaethau sydd eisoes yn bodolid.

Ystyriaethau cydraddoldeb

Yn ychwanegol at y cynigion a amlinellwyd uchod, hoffai’r Bwrdd gael eich barn a allai unrhyw un o’r materion a nodwyd uchod gael effaith, neu effaith bosibl, ar bobl sy’n uniaethu â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Materion eraill

Bydd mwy o hyblygrwydd yn golygu bod y swm sydd ar gael yn lwfans staffio’r Aelodau yn amrywio yn ystod y flwyddyn, gan ddibynnu ar ble mae eu staff ar eu pwyntiau cyflog unigol. Yr Aelodau fydd yn gyfrifol am reoli’r anwadalrwydd hwn.

Gall gwariant cynyddol o dan lwfans staffio unigol Aelod hefyd olygu bod llai o arian ar gael i’w drosglwyddo i lwfansau eraill.

Efallai y bydd yr Aelodau am nodi bod y cynigion a amlinellwyd uchod yn gymwys i lwfansau Aelod unigol, nid y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol. Bydd y Bwrdd yn trafod goblygiadau’r cynigion hyn ar y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn ei gyfarfod ym mis Mai.

Mae’r Bwrdd yn ymwybodol bod y Pwyllgor Cyllid wrthi’n cynnal ymchwiliad i’r ffordd y mae Comisiwn y Cynulliad yn rhagamcanu ei gyllideb ar gyfer penderfyniadau’r Bwrdd Taliadau a’r mater cysylltiedig o ran tanwariant. Byddai’r newidiadau a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad hwn, pe baent yn cael eu gweithredu, yn debygol o effeithio ar y tanwariant ar y Penderfyniad ac, felly, yr arian sydd ar gael i Gomisiwn y Cynulliad. Felly, mae’r Bwrdd yn bwriadu ymgysylltu â’r Comisiwn yn uniongyrchol fel ein bod yn mabwysiadu dull cydlynol o gyllidebu yn gyffredinol ac yn darparu gwasanaethau a chymorth ariannol i’r Aelodau.

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am ei gynigion. Cofiwch anfon unrhyw ymatebion i’r cynigion uchod erbyn 11 Mai 2018 i lywio trafodaethau’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf. Os oes gennych gwestiynau sy’n gysylltiedig â’r adolygiad neu’r ymgynghoriad, cysylltwch â’r ysgrifenyddiaeth. Sicrhewch eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio’r wybodaeth a roddir gennych cyn cyflwyno eich ymateb.