Ymgynghoriad: Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau: Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol

Cyhoeddwyd 17/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ei gyfarfod ar 24 Mai, trafododd y Bwrdd Taliadau y dystiolaeth a oedd wedi dod i law hyd yma yn ystod ei adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’w ymgynghoriad ar gynyddu hyblygrwydd y lwfansau sydd ar gael i Aelodau. Mae crynodeb o’r trafodaethau hyn a’r penderfyniadau a wnaed wedi’i ddarparu yn llythyr diweddaru’r Bwrdd, dyddiedig 6 Mehefin. Trafododd y Bwrdd hefyd sut y gallai gynyddu hyblygrwydd y lwfans o ran y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol i ddarparu rhywfaint o gydraddoldeb yn hyblygrwydd y darpariaethau i Aelodau a Phleidiau Gwleidyddol. Mae’r isod yn darparu trosolwg o drafodaethau’r Bwrdd a’r camau nesaf.

Cyflwyniad

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd o adolygiad y Bwrdd hyd yma, sy’n cynnwys adborth gan yr Aelodau a’r staff cymorth, yn ogystal ag adolygiad blaenorol y Bwrdd ar effeithiolrwydd y Penderfyniad, yn nodi bod cefnogaeth i gyflwyno mwy o hyblygrwydd i’r darpariaethau a geir yn y Penderfyniad. Roedd y dystiolaeth yn awgrymu y gallai’r hyblygrwydd cynyddol fynd i’r afael â’r pwysau llwyth gwaith o fewn swyddfeydd, y dewis i wario lwfansau ar staffio yn hytrach na threuliau eraill megis costau swyddfeydd a bod y strwythurau staffio presennol yn gyfyngedig. Ar ôl ystyried y safbwyntiau a ddaeth i law, mae’r Bwrdd yn ystyried a ddylid gweithredu’r newidiadau a ganlyn er mwyn gwella hyblygrwydd i’r Pleidiau Gwleidyddol wrth ddefnyddio gwahanol elfennau o’r Penderfyniad, gan ddod ag ef yn unol â’r hyn a gytunwyd ar gyfer lwfans Staffio Aelodau unigol.

Cyllidebu costau staffio ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol ar y pwyntiau cyflog gwirioneddol

Trafododd y Bwrdd y mater o gyfrifo’r costau staffio ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol ar y pwyntiau cyflog gwirioneddol yn hytrach na’r uchafswm costau posibl fel yw’r arfer bresennol.

Ar hyn o bryd, cyfrifir costau staffio ar yr “Uchafswm Costau Posibl” fel yr amlinellir yn adran 8.2 y Penderfyniad. Y gwahaniaeth rhwng yr uchafswm costau a’r Lwfans Staffio yw’r “Balans sy’n Weddill”. Y Balans hwn sydd ar gael i’r Pleidiau Gwleidyddol dalu am gostau staffio eraill megis staff a gyflogir ar gontractau tymor sefydlog, lleoliadau gwaith ac interniaid, costau teithio staff a goramser. Ni ellir ei ddefnyddio i gyflogi staff parhaol.

Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd i gyflwyno mwy o hyblygrwydd ar gyfer lwfansau Aelodau unigol o fewn y system ac i fynd i’r afael â phwyntiau pwysau, mae’r Bwrdd yn bwriadu caniatáu i’r balans sy’n weddill o’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol gael ei gyfrifo ar sail costau gwirioneddol yn hytrach nag uchafswm costau posibl. Gan y gall y Balans sy’n Weddill newid yn ystod y flwyddyn wrth i staff adael, ymuno ac ysgwyddo costau eraill, ni fydd unrhyw newid yn y darpariaethau ynghylch sut y gellir defnyddio’r balans hwn. Pe bai’r cynnig hwn yn cael ei weithredu, byddai’n dod i rym o 1 Ebrill 2019 yn unol â’r newidiadau yn y darpariaethau’n ymwneud â lwfans staffio Aelodau.

Ochr yn ochr â’r cynnig hwn mae’r Bwrdd hefyd yn bwriadu cyhoeddi’r gwariant y mae pob Plaid Wleidyddol yn ei wneud ar ei Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol. Byddai hwn yn gyhoeddiad blynyddol o gyfanswm gwariant y Blaid yn ystod blwyddyn ariannol ar staffio.

Trosglwyddo rhwng cyllidebau

Trafododd y Bwrdd ddiben y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol a chytunwyd bod defnydd bwriadol y lwfans yn wahanol iawn i’r lwfansau hynny a ddarperir i Aelodau unigol.

Mae Adran 7.5 o Benderfyniad y Bwrdd yn caniatáu i Aelod drosglwyddo swm o’i ddewis o’r balans sy’n weddill o’i Lwfans Staffio i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.

Mae’r Bwrdd yn cynnig dileu’r ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy’n caniatáu trosglwyddo cronfeydd o Lwfans Staffio’r Aelod i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol. Byddai’r cynnig hwn yn dod i rym o ddechrau’r Chweched Cynulliad. Caniateir i’r Aelodau hynny sy’n trosglwyddo o’u Lwfans staffio i lwfansau eu Pleidiau Gwleidyddol priodol ar hyn o bryd, barhau i drosglwyddo hyd at yr un swm bob blwyddyn tan ddiwedd y Pumed Cynulliad. Mae’r Bwrdd o’r farn na ddylid sefydlu unrhyw drefniadau trosglwyddo newydd yn y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn ystod gweddill y Cynulliad hwn.

Ystyriaethau o ran cydraddoldeb

Yn ychwanegol at y cynigion a amlinellir uchod, hoffai’r Bwrdd gael eich barn ynghylch a allai unrhyw un o’r materion a nodir uchod gael effaith, neu effaith bosibl, ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

Materion eraill

Bydd mwy o hyblygrwydd yn golygu bod y swm sydd ar gael yn lwfans staffio’r Pleidiau Gwleidyddol yn amrywio yn ystod y flwyddyn, yn dibynnu ar ble mae eu staff ar eu pwyntiau cyflog unigol. Yr Aelod sydd wedi’i awdurdodi i reoli gwariant y lwfans fydd yn gyfrifol am reoli’r anwadalrwydd hwn.

Efallai yr hoffai’r Aelodau nodi bod y cynigion a amlinellir uchod yn gymwys i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ac nid lwfansau unigol Aelodau.

Mae’r Bwrdd yn ymwybodol y byddai’r newidiadau a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad hwn, os cânt eu gweithredu, yn debygol o effeithio ar y tanwariant ar y Penderfyniad ac, felly, yr arian sydd ar gael i Gomisiwn y Cynulliad. Mae’r Bwrdd yn bwriadu ymgysylltu â’r Comisiwn yn uniongyrchol i sicrhau bod ganddo wybodaeth amserol am effaith unrhyw benderfyniad gan y Bwrdd.

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Byddai’r Bwrdd yn croesawu eich barn ar ei gynigion. Cofiwch anfon unrhyw ymatebion i’r cynigion uchod erbyn 20 Gorffennaf 2018 i lywio trafodaethau’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r adolygiad neu’r ymgynghoriad, cysylltwch â’r ysgrifenyddiaeth.