Y cymhellion a’r rhwystrau o ran ymgeisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 18/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cytunodd y Bwrdd i gomisiynu gwaith ymchwil i ddod i ddeall yn well pa ffactorau a allai rwystro unigolion rhag sefyll i gael eu hethol i’r Cynulliad, a pha agweddau o fewn cylch gwaith y Bwrdd sy’n denu pobl i’r swydd. Mae hyn yn rhan o’r gwaith sylfaenol i lywio ei gynigion i ddarparu cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad yn ystod y Chweched Cynulliad (Mai 2021-26).

Gwahoddodd y Bwrdd dendrau ar gyfer y gwaith ymchwil ac, yn dilyn proses asesu gadarn, penodwyd Prifysgol Caerdydd (Canolfan Llywodraethiant Cymru) ym mis Ebrill 2017. Cyhoeddwyd yr adroddiad, ‘Dadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru’, a’r adroddiad cryno ategol, ar 5 Gorffennaf 2018. Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion a godwyd yn yr adroddiad yn ystod gweddill ei gyfnod.

Darllenwch yr adroddiad a’r adroddiad cryno.