Nodiadau’r cyfarfod – 9 Gorffennaf 2020

Cyhoeddwyd 27/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 9 Gorffennaf 2020. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Cefnogi’r Aelodau wrth ymateb i Covid-19

Adolygodd y Bwrdd wariant a materion yn codi oherwydd Covid-19 a thrafodwyd unrhyw gamau pellach y dylid eu cymryd i gefnogi Aelodau i ymateb i’r pandemig. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am drafodaethau’r Bwrdd yn ei lythyr atoch dyddiedig 22 Gorffennaf 2020.

Dyfeisiau diogelwch ar gyfer Aelodau a’u swyddfeydd

Trafododd y Bwrdd ymhellach faterion ynglŷn â darparu dyfeisiau diogelwch personol. Mae’r Bwrdd o’r farn bod diogelwch yr Aelodau a’u staff yn brif flaenoriaeth. Fodd bynnag, o ystyried yr amgylchiadau anarferol diweddar a’r cyfyngiadau o ran gweithio gartref, ni all y Bwrdd, ar hyn o bryd, drafod y mater yn briodol gan nad yw’r defnydd o ddata ar gael. Mae’r Bwrdd wedi cytuno i beidio â dyroddi rhagor o ddyfeisiau ar hyn o bryd, ac mae wedi cytuno y bydd y Bwrdd nesaf yn trafod rôl dyfeisiau o’r fath cyn gynted â phosibl.

Mohammad Asghar

Roedd y Bwrdd yn drist iawn o glywed am farwolaeth ddisyfyd Mohammed Asghar AS. Roedd Oscar wir yn ffrind i bawb ac roedd y Bwrdd bob amser yn mwynhau eu trafodaethau ag ef ar wahanol faterion, ni waeth pa mor ddifrifol oedd testun y sgwrs. Mae ei deulu a’i gydweithwyr ym meddyliau’r Bwrdd ar yr adeg hon.

Nododd y Bwrdd hefyd fod Laura Anne Jones wedi cael ei dychwelyd fel Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru; dymunwn yn dda iddi yn ei rôl newydd.

Adroddiad blynyddol ar gyfer 2019-20

Fel y gwyddoch, rhaid i’r Bwrdd gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau a’i ddefnydd o adnoddau, fel sy’n ofynnol o dan adran 11 o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Cytunodd y Bwrdd ar ei adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf; gosodir yr adroddiad gerbron y Senedd yn fuan.

Dyfodol y Bwrdd

Gan mai hwn oedd cyfarfod ffurfiol olaf y Bwrdd presennol, trafododd faterion a fydd yn codi yn y dyfodol

Mae’r Bwrdd o’r farn bod y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd yn dystiolaeth o’i waith yn ystod ein hamser yn y swydd. Fodd bynnag, oherwydd materion y tu hwnt i’w reolaeth, mae materion nad oedd Bwrdd wedi gallu eu hystyried. Gan y byddai wedi hoffi eu hystyried, mae wedi cytuno i ofyn i’r Bwrdd olynol eu hystyried yn gynnar yn nhymor yr hydref. Fel yr amlinellwyd yn ein llythyr diweddaru atoch dyddiedig 9 Mehefin 2020, bydd angen i adolygiad blynyddol y Bwrdd o’r Penderfyniad ystyried cyfuniad o faterion cyn y Senedd nesaf (megis cyfraddau swyddfeydd a llety preswyl ar gyfer 2021-22), yn ogystal â materion parhaus o waith y Bwrdd presennol, megis costau deunydd ysgrifennu a ariennir yn ganolog.

Gwnaeth y Bwrdd hefyd drafod adroddiad annibynnol byr ar yr adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd, gan edrych ar arferion gwaith y Bwrdd dros y pum mlynedd diwethaf. Mae’r Bwrdd yn ddiolchgar i’r rhai a gymerodd ran yn yr adolygiad. Trafododd y Bwrdd yr adborth a amlinellwyd yn yr adroddiad ac roedd yn falch o nodi bod rhanddeiliaid ar y cyfan wedi croesawu dull y Bwrdd tuag at ei waith yn ystod ei gyfnod. Cytunodd y Bwrdd i sicrhau bod yr adroddiad ar gael fel atodiad i’w adroddiad blynyddol. Yn ogystal, bydd argymhellion yr adroddiad yn sail i’r broses o drosglwyddo i’r Bwrdd olynol fel y gall hwnnw ystyried unrhyw adborth perthnasol pan fydd yn ystyried ei ddull ar gyfer ei waith yn ystod ei gyfnod.

Yn olaf, gan mai hwn oedd cyfarfod ffurfiol olaf y Bwrdd presennol, roedd am achub ar y cyfle i ddiolch i’r holl Aelodau a staff cymorth sydd wedi ymgysylltu â’i waith dros y pum mlynedd diwethaf. Cyfrifoldeb y Bwrdd Taliadau Annibynnol yw sicrhau bod y bobl sy’n cael eu hethol i’r Senedd yn cael eu talu’n briodol a’u cefnogi i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol. Mae tasg y Bwrdd o sicrhau bod ei benderfyniad yn addas at y diben yn gofyn am fewnbwn a chyfathrebu gan yr Aelodau a’u staff cymorth, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi, ac rydym yn dymuno’r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.