Nodiadau’r cyfarfod – 25 Ionawr 2018

Cyhoeddwyd 23/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 25 Ionawr 2018. Ceir crynodeb isod o’i drafodaeth a’i benderfyniadau, a diweddariad byr ar ei raglen waith.

Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau

Hoffai’r Bwrdd ddiolch i’r holl Aelodau a staff cymorth sydd wedi cyfrannu at ei adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau hyd yn hyn, trwy gyfarfodydd un i un, y sesiwn galw heibio a gynhaliwyd ar 15 Ionawr a’r arolwg. Ystyriodd y Bwrdd y materion a godwyd hyd yn hyn yn y cyfarfod. Hoffai’r Bwrdd annog cynifer o Aelodau a staff cymorth i rannu eu barn â’r Bwrdd erbyn 6 Chwefror, os nad ydynt wedi gwneud, er mwyn llywio trafodaeth y Bwrdd. Bydd eich barn yn helpu i lywio blaenraglen waith y Bwrdd.

Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2018-19

Cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19

Trafododd y Bwrdd y gynyddran flynyddol yng nghyflogau staff cymorth a fydd yn gymwys o fis Ebrill 2018. Trafodwyd cyd-destun ehangach cyflogau ledled y DU yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Y llynedd, defnyddiodd y Bwrdd y ffigurau diweddaraf a oedd ar gael ar gyfer enillion canolrifol blynyddol staff amser llawn yng Nghymru (fel y’u mesurir gan yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) i uwchraddio cyflogau staff cymorth. Dyma’r mynegai sy’n gymwys i gyflog Aelodau. Cytunodd y Bwrdd mai hwn oedd y mynegai mwyaf addas o hyd er mwyn pennu cynnydd priodol mewn cyflogau ar gyfer 2017-18.

Cyhoeddwyd ffigurau dros dro yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer 2017 ym mis Hydref 2017, sef 2.3 y cant.

Felly, mae’r Bwrdd yn cynnig codi cyflogau’r staff cymorth ar gyfer 2018-19 2.3 y cant yn unol â ffigurau dros dro 2017 ar gyfer enillion canolrifol yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yng Nghymru.

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19

Trafododd y Bwrdd y lwfans costau swyddfa ac a yw’n parhau i fod yn briodol ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19. Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau, gan gynnwys adborth diweddar gan Aelodau, gwariant Aelodau ar gostau swyddfa, chwyddiant ac effaith penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i beidio ag ariannu meddalwedd gweithiwr achos Aelodau’n ganolog.

Nododd y Bwrdd fod y cynnydd yn y lwfans costau swyddfa ar gyfer 2017-18 yn seiliedig ar y mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2016. Cytunodd y Bwrdd, er cysondeb, i ddefnyddio cyfradd y mynegai prisiau defnyddwyr o fis Medi 2017, sef 3 y cant, fel sail wrth bennu’r cynnydd ar gyfer 2018-19. Yn sgîl adborth a gafwyd gan Aelodau a staff cymorth, trafododd y Bwrdd oblygiadau cost y newid yn y trefniadau ariannu ar gyfer y feddalwedd gweithiwr achos a gofynion estynedig y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar y lwfans costau swyddfa.

Felly, mae’r Bwrdd yn cynnig cynyddu’r lwfans costau swyddfa 5 y cant yn unol â chyfradd y mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2017 a thalu’r costau ychwanegol y disgwylir i’r Aelodau eu hariannu o’u cyllideb;

Trafododd y Bwrdd sylwadau a godwyd gan yr Aelodau a’u staff cymorth ynghylch hawlio ar gyfer lluniaeth i ymwelwyr. Mae’r Bwrdd o’r farn na ddylid ad-dalu hyn o dan y lwfans costau swyddfa.

Hefyd, trafododd y Bwrdd lwfans y gall yr Aelodau ei gael i dalu costau rhesymol gwelliannau diogelwch gan na allai’r Bwrdd sicrhau y bydd y gronfa sydd wedi’i chlustnodi ar hyn o bryd yn parhau y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol bresennol.

Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynnig lwfans heb derfyn uchaf a fydd wedi’i gyfyngu i’r meini prawf a ddefnyddir ar hyn o bryd i ganiatáu i’r Aelodau roi argymhellion diogelwch ar waith.

Gwariant ar lety preswyl ar gyfer 2018-19

Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau o ran y gwariant ar lety preswyl ar gyfer 2018-19, gan gynnwys gwariant yr Aelodau ar y lwfans hwn a’r farchnad rent leol.

Mae’r Bwrdd wedi penderfynu y dylid cynnal y lwfans presennol ar gyfer Aelodau ardal allanol, sef £9,200 y flwyddyn/£775 fesul mis calendr, yr uchafswm ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol, sef £882 y flwyddyn a’r uchafswm costau rhent ar gyfer Aelodau â dibynyddion, sef £120 y mis.

Cofiwch anfon ymatebion i’r cynigion uchod erbyn 2 Mawrth 2018 i lywio trafodaethau’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf.

Adolygiad i nodi’r cymhellion i sefyll ar gyfer etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r rhwystrau rhag gwneud hynny

Yn ei strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd mai un o’i brif flaenoriaethau yw trafod a oes materion y gall fynd i’r afael â hwy yn ei gylch gwaith i ddenu ystod eang o ddinasyddion ar draws Cymru i sefyll ar gyfer etholiad i’r Cynulliad. Fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, roedd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn llwyddiannus mewn proses dendro agored i gynnal yr adolygiad. Mae’r Bwrdd bellach wedi cael adroddiad gan y Ganolfan i’w drafod a bydd yn trafod camau nesaf yr adolygiad, gan gynnwys cyhoeddi’r adroddiad, yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.

Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Nododd y Bwrdd adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, ‘Senedd sy’n gweithio i Gymru’ (mis Rhagfyr 2017). Cytunodd y Bwrdd i aros am ganlyniad ymgyngoriad y Comisiwn ac unrhyw benderfyniad sy’n ei ddilyn i gyflwyno deddfwriaeth cyn trafod y goblygiadau ar Benderfyniad y Bwrdd ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Materion eraill

Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i ofyn y byddai cynigion deddfwriaethol i newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru hefyd yn cynnwys darpariaeth i newid enw’r Bwrdd wedyn i “Bwrdd Taliadau Annibynnol Senedd Cymru”.

Cafodd y Bwrdd wybod bod Caroline Jones AC wedi’i henwebu fel yr Aelod a enwebwyd gan y Comisiwn i’r Bwrdd Pensiynau yn lle Joyce Watson AC. Cymeradwyodd y Bwrdd yr enwebiad.