Nodiadau’r cyfarfod – 23 Mai 2019

Cyhoeddwyd 05/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 23 Mai 2019. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Edrychodd aelodau’r Bwrdd yn fanwl ar y darpariaethau sy’n dod o dan ran dau ei adolygiad, gan gynnwys y lwfansau cymorth staffio sydd wedi’u cynnwys yn y Penderfyniad. Cytunodd y Bwrdd i ystyried y materion hyn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf, gyda’r bwriad o gyhoeddi ymgynghoriad ynghylch unrhyw newidiadau arfaethedig cyn toriad yr haf.
Hefyd, ystyriodd y Bwrdd am y tro cyntaf y materion sy’n rhan o drydedd ran yr adolygiad, sef y penodau yn y Penderfyniad ar Gyflogau Aelodau a chefnogaeth ar gyfer gadael eu swyddi. Bydd y Bwrdd yn dychwelyd at y materion hyn yn ei gyfarfod nesaf. Fel yr amlinellir ar ei wefan, mae’r Bwrdd yn disgwyl cyhoeddi ymgynghoriad ar y materion a godir yn y drydedd ran hon o’r adolygiad yn ystod tymor yr hydref.

Adolygiad o reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Ystyriodd y Bwrdd a oedd angen adolygu Cynllun Pensiwn yr Aelodau i sicrhau nad oedd yn achosi unrhyw wahaniaethu ar sail oed. Gan fod y Bwrdd Taliadau yn gyfrifol am osod rheolau’r Cynllun, cytunodd i wneud rhai newidiadau i’r rheolau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben. Cytunodd y Bwrdd hefyd i rannu ei gynigion gyda’r Bwrdd Pensiwn cyn ymgynghori â rhanddeiliaid ar y newidiadau hyn yn ddiweddarach yn yr haf.

Yr adolygiad bob chwe mis o newidiadau i lwfansau staffio

Fe gofiwch fod y Bwrdd wedi newid sut y gellid defnyddio’r lwfansau staffio, fel rhan o’i adolygiad diweddar o gymorth staffio. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys cael gwared ar y cap 111 awr ar gyflogi staff a gyflogir yn barhaol, cyllidebu o ran costau cyflogau ar gostau gwirioneddol, a newidiadau i’r opsiynau trosglwyddo sydd ar gael i Aelodau. Diben y newidiadau hyn oedd cynnig rhagor o hyblygrwydd i Aelodau heb gynyddu’r gost i’r trethdalwr. Pan gyflwynwyd y newidiadau hyn, cytunodd y Bwrdd i adolygu a monitro’r newidiadau ar ôl chwech ac ar ôl deuddeg mis.
Ystyriodd y Bwrdd y newidiadau sydd wedi digwydd ers eu cyflwyno, ac er bod rhywfaint o dystiolaeth ei fod yn darparu rhagor o hyblygrwydd, mae’r Bwrdd yn teimlo ei bod yn rhy gynnar i allu ystyried effaith lawn y newidiadau hyn. O’r herwydd, cytunodd y Bwrdd i gynnal adolygiad arall ym mis Tachwedd ac ym mis Ionawr i ganiatáu rhagor o amser i asesu’u heffaith ac effeithiolrwydd y newidiadau. Os oes angen unrhyw newid o ganlyniad i’r ystyriaethau hyn yn y dyfodol, yna bydd y Bwrdd yn ymgynghori â chi ynglŷn â’r newidiadau hyn.

Polisïau staff cymorth diwygiedig

Cytunodd y Bwrdd ar newidiadau i Weithdrefn Ddisgyblu a Gweithdrefn Gwynion staff cymorth, er mwyn sicrhau eu bod yn ategu’r polisi Urddas a Pharch, yn ogystal â newidiadau eraill i’r polisi Absenoldeb Tosturiol a’r Polisi Recriwtio. Fel y cofiwch efallai, mae’r Bwrdd wedi ymgynghori ar gynigion i ddiwygio’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwynion i gynnwys cyflwyno person annibynnol i ymchwilio i gwynion a wneir yn erbyn Aelodau neu aelodau o’r teulu sy’n cael eu cyflogi yn yr un swyddfa, yn ogystal ag i ganiatáu hawl i staff cymorth gael rhywun i fynd gyda nhw i unrhyw gyfarfodydd o’r fath sy’n codi yn sgîl y gweithdrefnau hyn. Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i weithredu’r newidiadau hyn ac i ymgynghori ag Aelodau a chynrychiolwyr y staff cymorth ar y newidiadau i eiriad y gweithdrefnau a’r polisïau.
Rhannodd y Bwrdd y newidiadau hyn o ran geiriad â’r Grwpiau Cynrychiadol ym mis Ebrill, a thrafodwyd y newidiadau arfaethedig gyda chynrychiolwyr yr Aelodau a’r staff cymorth ar 22 Mai 2019, cyn cytuno ar y fersiynau terfynol yn ei gyfarfod ym mis Mai. Caiff y fersiynau terfynol eu dosbarthu maes o law, a byddant yn dod i rym ar unwaith. Pe bai Aelodau neu staff cymorth angen unrhyw arweiniad ar y gweithdrefnau a’r polisïau diwygiedig, cysylltwch â’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.

Materion eraill

Yng ngoleuni’r newidiadau diweddar i grwpiau’r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad, nododd y Bwrdd y newidiadau dilynol i’r dyraniadau o ran Lwfans Cefnogaeth y Pleidiau Gwleidyddol. Cytunodd y Bwrdd i ystyried effaith y newidiadau o ran y pleidiau ar holl drefniadau cyllido grwpiau gwleidyddol mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Bu’r Bwrdd hefyd yn ystyried ei adroddiad drafft ar gyfer ei adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi maes o law a chaiff ei rannu â chi fel sy’n arferol.