Nodiadau’r cyfarfod – 21 Mawrth 2019

Cyhoeddwyd 01/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 21 Mawrth. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau. 

Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad

Yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Ionawr lansiodd ei ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad a gynhaliwyd rhwng 22 Ionawr a 12 Mawrth. Ystyriodd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, ac amlinellir ei benderfyniadau isod. Bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu o 1 Ebrill 2019 a bydd Penderfyniad diwygiedig ar gyfer 2019-20 yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2019-20

Nododd y Bwrdd yr ymateb a ddaeth i law a oedd yn awgrymu y dylid cynyddu’r lwfans Costau Swyddfa ac y dylid cyflwyno system haenog i adlewyrchu cyfartaledd pris rhentu swyddfeydd ledled Cymru. Fodd bynnag, ar ôl ystyried sut mae Aelodau’n gwario eu lwfans, cytunodd y Bwrdd y byddai’r lwfans Costau Swyddfa ar gyfer 2019-20 yn aros ar y cyfraddau cyfredol y darperir ar eu cyfer yn y Penderfyniad, gan nad oes tystiolaeth i awgrymu bod angen cynnydd. Os daw tystiolaeth newydd i’r amlwg i awgrymu bod angen cynnydd, bydd y Bwrdd yn ystyried hyn fel rhan o’i adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Gwariant ar lety preswyl ar gyfer 2019-20

Cytunodd y Bwrdd i gynyddu’r lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer Aelodau ardal allanol 2.4 y cant yn unol â’r gyfradd CPI ar gyfer mis Medi 2018. Penderfynodd y Bwrdd y dylid cadw yr uchafswm ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol, sef £882 y flwyddyn, a’r uchafswm costau rhent ar gyfer Aelodau â dibynyddion, sef £120 y mis ar eu lefel presennol ar gyfer 2019-20.

Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynyddu’r lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer Aelod Ardal canolradd i £6,840 y flwyddyn ac i ymestyn y defnydd o’r lwfans fel y cynigiwyd yn yr ymgynghoriad. Mae’r Bwrdd hwn o’r farn y bydd y newidiadau hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd nad yw’r lwfans bellach yn cyfateb i’r galwadau cynyddol ar Aelodau i aros dros nos ym Mae Caerdydd.  Gall Cymorth Busnes yr Aelodau ddarparu cyngor pellach os bydd ei angen.

Nododd y Bwrdd yr awgrym y dylid diffinio’r ffiniau ar gyfer Gwariant ar Lety Preswyl ar yr amser teithio o brif gartref yr Aelodau i Fae Caerdydd ac nid y pellter, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Ystyriodd y Bwrdd hyn fel rhan o’i waith ehangach wrth ddatblygu Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Rhoddir diweddariad ar y gwaith hwn isod.

Cyflogau Aelodau a’u Staff Cymorth ar gyfer 2019-20

Fel yr amlinellir yn llythyr y Bwrdd, dyddiedig 5 Chwefror 2019, bydd cyflogau staff cymorth ar gyfer 2019-20 yn cynyddu 1.2 y cant yn unol â’r ffigurau dros dro ar gyfer newid mewn enillion canolrifol yng Nghymru, fel y’u mesurir gan yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Caiff y newid ei roi ar waith ar 1 Ebrill 2019.

Fel y nodir yn y Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad, caiff cyflogau’r Aelodau a deiliaid swyddi eu haddasu’n awtomatig bob blwyddyn yn unol â’r newid mewn enillion canolrifol yng Nghymru, fel y’u mesurir gan yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Felly, bydd cyflogau’r Aelodau a deiliad swyddi yn cynyddu o fis Ebrill, yn yr un modd â chyflogau staff cymorth. Cyhoeddir manylion llawn y cyflogau diwygiedig ar gyfer Aelodau a staff cymorth yn fuan yn y Penderfyniad ar gyfer 2019-20.

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Ystyriodd y Bwrdd y materion a godwyd yn ystod rhan gyntaf ei adolygiad, sy’n canolbwyntio ar benodau’r Penderfyniad sy’n trafod Gwariant ar Lety Preswyl, Siwrneiau’r Aelodau a Chostau Swyddfa’r Aelodau. Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi ei ymgynghoriad ar y rhan hon o’r adolygiad yn fuan. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth maes o law.

Bu’r Bwrdd hefyd yn ystyried y materion sy’n rhan o ail ran yr adolygiad, sef y cymorth staffio sydd ar gael i Aelodau unigol a phleidiau gwleidyddol. Bydd y Bwrdd yn dychwelyd at y materion a godwyd yn ei gyfarfod nesaf. Fel yr amlinellir ar wefan y Bwrdd, mae’n disgwyl cyhoeddi ymgynghoriad ar y materion a godir yn y rhan hon o’r adolygiad yn ystod tymor yr haf.

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Trafododd y Bwrdd oblygiadau posibl Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar ei gylch gwaith a chytunodd i fonitro hynt y Bil drwy’r Cynulliad.

Gwerthuso rôl yr Uwch-gynghorydd

Fel y gwyddoch, ym mis Tachwedd 2018, comisiynodd y Bwrdd Capital People i gynnal gwerthusiad o rôl yr Uwch-gynghorydd ar ei ran. Fel yr amlinellwyd yn ei ddogfen ymgynghori ddiweddar cytunodd y Bwrdd i werthuso sut mae’r rôl wedi datblygu yn erbyn yr amcanion gwreiddiol ar gyfer y swydd. I lywio’r gwerthusiad, ystyriodd Capital People y dystiolaeth yr oedd y Bwrdd eisoes wedi’i chasglu yn ogystal â chynnal gwaith casglu data ei hun. Hoffai’r Bwrdd ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o werthuso rôl yr Uwch-gynghorydd hyd yma.

Mae’r Bwrdd bellach wedi cael adborth ar y gwerthusiad gan Capital People a bydd yn ystyried camau nesaf y gwaith hwn, gan gynnwys cyhoeddi’r adroddiad, yn ei gyfarfod nesaf.

Materion eraill

Yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at holl staff cymorth Aelodau annibynnol i ffurfioli mecanwaith ar gyfer ymgysylltu â’r grŵp hwn o staff. Ar ôl ystyried yr adborth a ddaeth i law ar y broses, mae’r Bwrdd wedi cytuno i ddarparu cyfleoedd i staff sy’n gweithio mewn swyddfeydd Aelodau Annibynnol rannu unrhyw faterion sy’n codi neu bryderon sydd ganddynt cyn cyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr.

Hoffai’r Bwrdd hefyd ddiolch i Sian Giddins am ei gwaith fel Dirprwy Glerc y Bwrdd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r Bwrdd yn ddiolchgar iawn i Sian am ei chefnogaeth a’i chyngor yn ystod ei chyfnod yn y rôl. Dymunwn yn dda i Sian yn yr hyn y bydd yn wneud yn y dyfodol.