Nodiadau’r cyfarfod – 21 Mai 2020

Cyhoeddwyd 09/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 21 Mai 2020. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Cefnogi’r Aelodau wrth ymateb i Covid-19
Adolygodd y Bwrdd wariant yn deillio o Covid-19 a thrafododd gamau eraill y dylai eu cymryd i helpu’r Aelodau i ymateb i’r pandemig. Amlinellwyd rhagor o wybodaeth yn codi o’r trafodaethau hyn yn ein llythyr ar 9 Mehefin 2020.
Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Trafododd y Bwrdd y drafftiau terfynol o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a’r adroddiad cysylltiedig. Fel y gwyddoch, cyhoeddwyd yr adroddiad ar 4 Mehefin 2020 ac mae ar gael ar wefan y Bwrdd.

Dyfeisiau diogelwch i’r Aelodau a’u swyddfeydd
Adolygodd y Bwrdd y ddarpariaeth o ddyfeisiau diogelwch personol i’r Aelodau a thrafododd ei benderfyniad blaenorol i gyflwyno’r dyfeisiau hyn i swyddfeydd yr Aelodau fel y nodwyd i chi ym mis Chwefror. Ar y pryd, cytunodd y Bwrdd i dalu am un ddyfais ddiogelwch personol ychwanegol ar gyfer swyddfa pob Aelod (yn ychwanegol at y dyfeisiau a ddarperir i’r Aelodau eu hunain). Fel y gwyddoch, nid yw’r dyfeisiau hyn wedi’u cyflwyno eto ac ni fyddant yn cael eu darparu nes y bydd swyddfeydd yn ailagor yn dilyn cyfyngiadau symud Covid-19.

Mae diogelwch yr Aelodau a’u staff cymorth yn bwysig iawn i’r Bwrdd. Er y bydd dyfeisiau o’r fath ar gael i unrhyw swyddfa lle y mae eu hangen, mae’r Bwrdd wedi cytuno y bydd y dyfeisiau’n cael eu darparu yn ôl y galw i’r rhai y mae arnynt eu hangen. Gan mai ychydig o amser sydd ar ôl o dymor y Senedd hon, a heb eglurder ynghylch pryd y bydd swyddfeydd yn ailagor, mae’r Bwrdd o’r farn y byddai dull o’r fath yn darparu’r gwerth gorau am arian i’r trethdalwr, gan barhau i ymdrin â risgiau i’r Aelodau a’u staff. Cytunodd y Bwrdd hefyd i awgrymu i’r Bwrdd a fydd yn ei olynu ei fod yn adolygu darpariaeth dyfeisiau o’r fath i’r Aelodau a’u swyddfeydd cyn tymor y Senedd nesaf ym mis Mai 2021.

Diddymu’r Chweched Senedd
Trafododd y Bwrdd drefniadau ar gyfer defnyddio adnoddau a ariennir gan y Penderfyniad wrth ddiddymu’r Chweched Senedd. Bydd tâl yr Aelodau sy’n rhoi’r gorau i’w sedd yn dod i ben pan gaiff y Senedd ei diddymu. Fodd bynnag, Comisiwn y Senedd sy’n penderfynu ar reolau ynghylch defnyddio adnoddau wrth ddiddymu’r Senedd.

Mae’r Penderfyniad yn darparu mai’r amser hwyaf ar gyfer dirwyn swyddfeydd i ben yw tri mis. Yn ystod y cyfnod cyn etholiad 2016, rhoddodd y Bwrdd y llyw y dylai’r Aelodau sydd wedi datgan eu bod yn rhoi’r gorau i’w sedd ddirwyn eu swyddfeydd i ben o fewn chwe wythnos i’r ddyddiad diddymu.

Trafododd y Bwrdd y mater hwn yn ei gyfarfod a chytunodd y byddai’n rhannu ei farn â’r Comisiwn y byddai’n ddoeth awgrymu dull tebyg ar gyfer etholiad 2021.

Materion eraill
Etifeddiaeth y Bwrdd
Fel y gwyddoch, daw tymor presennol y Bwrdd i ben ddiwedd yr haf hwn. Fel y cyfryw, mae’r Bwrdd wedi dechrau trafod sut y mae’n trosglwyddo ei waith i’r Bwrdd a fydd yn ei olynu.
Fel rhan o’r broses hon, cafodd y Bwrdd drafodaeth gychwynnol ynghylch pa faterion y bydd yn awgrymu bod y Bwrdd nesaf yn eu trafod. Mae’r rhain yn gyfuniad o faterion y bydd yn rhaid i’r Bwrdd nesaf eu trafod fel rhan o’i adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad cyn y Senedd nesaf (megis trethi swyddfa ar gyfer 2021-22), yn ogystal â materion sy’n weddill o waith presennol y Bwrdd. Elfen bwysig arall o’r gwaith hwn yw gwerthuso arferion gwaith y Bwrdd presennol ac a yw wedi cyflawni’r amcanion a osododd iddo’i hun ar ddechrau ei dymor. Bydd y Bwrdd yn trafod y materion hyn eto yn ei gyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf.