Bwrdd yn cyhoeddi penderfyniad eithriadol

Cyhoeddwyd 29/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, oherwydd amgylchiadau eithriadol, wedi cyhoeddi ei benderfyniad i ganslo’r cynnydd yng nghyflogau Aelodau o’r Senedd tan ddechrau’r Chweched Senedd.

Cafodd penderfyniad y Bwrdd ei gyfleu mewn datganiad i Gomisiwn y Senedd sydd wedi’i osod gerbron y Senedd.

Mae penderfyniad y Bwrdd yn dileu paragraff 3.2.1 o’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau 2020-21 (“y Penderfyniad”), sy’n golygu na fydd cyflogau’r Aelodau yn cael eu mynegeio cyn y Chweched Senedd.

Mae hyn yn disodli’r ddarpariaeth bresennol, sef bod tâl Aelodau a deiliaid swyddi yn cael ei addasu ym mis Hydref 2020 gan +4.4. y cant, ac ar ôl hynny ym mis Ebrill bob blwyddyn gan y newid yn Enillion Canolrif gros cyflogeion amser llawn yng Nghymru, yn ôl yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), rhwng mis Mawrth y flwyddyn honno a mis Mawrth y flwyddyn flaenorol.

Eleni, byddai’r newid yn yr ASHE a gymhwyswyd wedi bod yn gynnydd o 4.4 y cant yn y cyflogau.

Rhesymeg y Bwrdd dros ei benderfyniad eithriadol, fel yr amlinellwyd yn ei ddatganiad, yw:

“Mae’r Bwrdd yn cydnabod rôl bwysig yr Aelodau wrth gynrychioli eu hetholwyr a’u hymrwymiad i gyflawni eu dyletswyddau yn y cyfnod anodd hwn. Ar yr un pryd, bu’r Bwrdd yn ystyried effaith economaidd y pandemig Covid-19 yng Nghymru. Bydd y rhagolygon economaidd hynod anffafriol hyn yng Nghymru yn golygu y bydd llawer o weithwyr yn dioddef caledi, boed hynny oherwydd cyflogau is neu ddiweithdra. Mae’r Bwrdd o’r farn bod y darlun economaidd wedi newid yn sylweddol ers i’r Bwrdd adolygu’r mater ym mis Mawrth ar ddechrau’r pandemig. Mae’n dod yn gliriach y bydd y pandemig yn cael effeithiau tymor hwy ac o ystyried y cyd-destun iechyd cyhoeddus sydd wedi newid yn gyflym yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, mae’n debygol iawn bellach y bydd y rhagolygon economaidd gwael iawn yn parhau am y chwe mis nesaf.

“O ystyried hyn, cred y Bwrdd y byddai caniatáu unrhyw gynnydd yn y cyflogau mewn amgylchiadau o’r fath yn amhriodol ac yn anodd ei gyfiawnhau.”

Mae copi llawn o’r datganiad ar gael yma.