Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Dyddiadau ymgynghori posibl

Cyhoeddwyd 29/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ei adroddiad strategaeth ar gyfer 2016-21, mae’r Bwrdd Taliadau yn amlinellu ei ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021.

Fel y gwyddoch, ategir gwaith y Bwrdd gan egwyddorion sy’n cynnwys y dylai’r cymorth ariannol a’r taliadau i Aelodau gefnogi diben strategol y Cynulliad; a bod yn rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru. Mae’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod ei Benderfyniad yn adlewyrchu cymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y mae Aelodau’n ymgymryd â hwy, ac nad yw’n rhwystro unigolion, am resymau ariannol, rhag ceisio cael eu hethol i’r Cynulliad. Gan hynny, mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:

  • addasrwydd lefel y gefnogaeth a ddarperir yn y Penderfyniad;
  • hyblygrwydd, rhagnodoldeb a hygyrchedd y darpariaethau;
  • gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael.

Cytunodd y Bwrdd ar sut y bydd yn adolygu’r Penderfyniad yn ei gyfarfod ar 11 Hydref 2018. Caiff yr adolygiad ei rannu’n dair. Ar ôl ystyried pob rhan o’r gwaith, bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ymgynghoriad i geisio barn am ei gynigion i ddiwygio unrhyw ddarpariaethau yn y rhan honno. Wedi i’r Bwrdd gwblhau ei adolygiad o’r tair rhan o’r adolygiad, caiff ymgynghoriad terfynol ei gyhoeddi i geisio barn am y Penderfyniad yn ei gyfanrwydd, a hynny i sicrhau bod y pecyn cymorth ariannol i’r Aelodau yn parhau i fod yn addas at y diben. Mae manylion y materion sydd ym mhob rhan o’r adolygiad a’r dyddiadau ymgynghori posibl wedi’u nodi isod:

  Materion i’w hystyried Y dyddiadau ymgynghori posibl
Rhan un –     Gwariant ar lety preswyl (pennod 4)

 

–     Siwrneiau’r Aelodau (pennod 5)

–     Lwfans costau swyddfa (pennod 6)

Gwanwyn 2019
Rhan dau –     Cymorth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad (pennod 7)

 

–     Cymorth ar gyfer y pleidiau gwleidyddol (pennod 8)

Haf 2019
Rhan tri –     Taliadau Aelodau (pennod 3)

 

–     Aelodau sy’n gadael y swydd (pennod 9)

Dechrau’r hydref 2019
Ymgynghoriad llawn: Holl ddarpariaethau’r Penderfyniad Diwedd yr hydref 2019

Er gwybodaeth yn unig y mae’r dyddiadau ymgynghori a gallent newid. Caiff manylion llawn pob ymgynghoriad eu cyhoeddi ar wefan y Bwrdd.

Pe bai’r Comisiwn yn penderfynu cyflwyno deddfwriaeth fel rhan o’i Raglen Diwygio’r Cynulliad, mae’r Bwrdd yn ymwybodol y byddai gofyn iddo ystyried yr angen i gynnig unrhyw newidiadau pellach i’r Penderfyniad i adlewyrchu’r cynigion deddfwriaethol. Bydd y Bwrdd yn monitro’r rhaglen Diwygio’r Cynulliad wrth iddi ddatblygu, i sicrhau bod ei Benderfyniad yn ystyried newidiadau cyfansoddiadol a’i fod yn rhoi cyfle i’r Aelodau ymgymryd â’u rôl yn effeithiol ar ran pobl Cymru.