Mae’r Bwrdd Taliadau wedi lansio ei ymgynghoriad cyntaf ar gyfres o gynigion ynghylch ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Mae Penderfyniad y Bwrdd yn amlinellu cyflogau, pensiynau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth Aelodau’r Cynulliad. Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad, flwyddyn cyn yr etholiad nesaf, ym mis Mai 2020, i roi gwybod i bob darpar ymgeisydd am y cymorth sydd ar gael iddynt pe baent yn cael eu hethol.
Mae’r cynigion yr ymgynghorir arnynt yn ymwneud â lwfansau Gwariant ar Lety Preswyl, Siwrneiau’r Aelodau a Chostau Swyddfa.
Mae manylion llawn yr ymgynghoriad a’r cynigion ar gael.