Dyddiad y Cyfarfod |
Materion dan ystyriaeth |
12 Hydref 2023 |
Diogelwch – Diweddariad Blynyddol Trafodaeth gychwynnol ar yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 Diweddariad gan Gomisiwn y Senedd ynghylch Yswiriant Atebolrwydd Cyflogaeth Aelodau Diweddariad gan Gomisiwn y Senedd ynghylch yr Adolygiad o’r Polisi Urddas a Pharch Adolygiad thematig o ffyrdd o weithio – y wybodaeth ddiweddaraf a thrafodaeth o’r dystiolaeth a gasglwyd Diwygio’r Senedd – y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth |
30 Tachwedd 2023 |
Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024-25 – Cynigion ar gyfer yr Ymgynghoriad; |
8 Chwefror 2024 |
Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024-25 – trafod yr ymatebion a gafwyd. Adolygiad thematig o ffyrdd o weithio – trafodaeth o’r dystiolaeth a gasglwyd drwy arolwg o’r Aelodau yn hydref 2023 |
Bydd y Bwrdd yn anelu at roi syniad o gylch cyfarfodydd y flwyddyn. Mae'n bosibl y bydd angen i'r Bwrdd newid ei raglen o bryd i'w gilydd ac efallai y bydd angen i'r Bwrdd gwrdd yn fwy rheolaidd os bydd angen.
Mae'r Bwrdd yn ystyried ac yn cytuno ar ei raglen waith ym mhob cyfarfod, bydd unrhyw newidiadau i'r rhaglen yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl, a bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi mewn llythyrau diweddariad yn dilyn cyfarfodydd y Bwrdd.