Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd

Cyhoeddwyd 24/07/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/03/2026

Tâl Cadeiryddion Pwyllgorau sy’n Rhannu Swydd

Bydd yr holl Aelodau o'r Senedd wedi cael llythyr ar 27 Chwefror 2026 ynglŷn ag ymgynghoriad ar dâl cadeiryddion pwyllgorau sy’n rhannu swydd.

Byddai’r Bwrdd yn ddiolchgar pe gallai unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad ddod i law erbyn 17:00 ddydd Mercher 11 Mawrth 2026.

Gofynnir ichi anfon eich ymatebion drwy e-bost at: taliadau@senedd.cymru.

Penderfyniad Drafft ar gyfer y Seithfed Senedd

Cynhyaliodd y Bwrdd ymgynghoriad rhwng 15 Rhagfyr 2025 a 4 Chwefror 2026, i ofyn am safbwyntiau ar y Penderfyniad drafft symlach newydd ar gyfer y Seithfed Senedd. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys nifer cyfyngedig o gynigion polisi a chodiadau ar sail chwyddiant i gyflogau a chyllidebau ar gyfer 2026-27.

Bydd y Bwrdd yn adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei gyfarfodydd ym mis Chwefror a mis Mawrth a bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu hadlewyrchu ym Mhenderfyniad terfynol y Bwrdd, a fydd yn dod i rym o ddechrau'r Seithfed Senedd.

Gwnaeth y Bwrdd ei benderfyniadau allweddol ynghylch cyflogau Aelodau a chyllidebau busnes a staffio ar gyfer y Seithfed Senedd ym mis Gorffennaf 2025. Mae'r rhain, a gwybodaeth gefndirol sy'n ymwneud â'r penderfyniadau hyn, ar gael isod

Mae hyn yn cynnwys manylion cryno o'r cyflogau, pensiynau a chymorth adsefydlu a ddarperir i Aelodau a'r cymorth staffio ehangach (gan gynnwys cyflogau) a chostau busnes eraill, gan gynnwys cymorth i Aelodau anabl, Aelodau â chyfrifoldebau gofalu, llety dros nos, teithio a chymorth swyddfa etholaethol ac ymgysylltu. 

Gofynnir i Aelodau sy'n ceisio cael eu hail-ethol adolygu rolau eu swyddi presennol yn erbyn y Fframwaith Dosbarthu Teuluoedd Swyddi cyn y dyddiad cau estynedig o 30 Mehefin 2026.