Mae'r cynigion ar sut y caiff cyflogau'r Aelodau a'u staff eu pennu ar ddechrau'r Senedd nesaf i'w ffeindio yma.
Mae'n rhan o ymarfer mawr gan y Bwrdd i adolygu ei Benderyfniad wrth i'r Senedd baratoi i ddod yn gorff â 96 o Aelodau.
Mae'r cam hwn o'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Tâl yr Aelodau
- Cymorth ychwanegol i'r Aelodau
- Cymorth staffio
- Costau teithio
Dr Elizabeth Haywood yw Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd:
"Mae'r Aelodau o'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein democratiaeth ac rydym yn credu y dylai eu cyflog adlewyrchu'r rôl honno a'u cyfrifoldebau. Rydym hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb, gan leihau'r rhwystrau fel y gall y Senedd adlewyrchu cymdeithas, lle y all unrhyw un, waeth beth fo'i gefndir neu ei amgylchiadau, ddod yn Aelod o'r Senedd. Mae angen adnoddau ar yr Aelodau hefyd i gyflogi staff i roi cymorth gwerthfawr iddyn nhw a'u hetholwyr."
"Ar ôl ystyriaeth ofalus, ein barn ni yw bod lefel cyflog presennol yr Aelodau yn deg ac yn adlewyrchu eu rôl a'u cyfrifoldebau. Rydym felly yn cynnig y dylai barhau ar yr un lefel yn y Senedd nesaf, gan gynyddu dim ond yn unol ag ASHE (sef enillion cyfartalog Cymru) a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd."
"Rydym yn cydnabod y gall lefel cyflog Aelodau etholedig ysgogi dadl a pheth anghytuno, ac rydym yn annog pob darn o adborth ar y materion pwysig hyn."
"Mae ein cynigion wedi'u llywio gan ein dyletswyddau statudol a'n hegwyddorion craidd er mwyn sicrhau bod tâl yr Aelodau'n deg a'u bod yn cael digon o adnoddau i gefnogi eu dyletswyddau, a sicrhau bod penderfyniadau'n cynnig gwerth am arian."
Mae rhagor o wybodaeth am ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau a sut i gyflwyno ymateb ar gael ar y wefan. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 17:00 dydd Mercher 4 Mehefin 2025.