Mae'r cynigion ar sut y caiff cyflogau'r Aelodau a'u staff eu pennu ar ddechrau'r Senedd nesaf i'w ffeindio yma.
Mae'n rhan o ymarfer mawr gan y Bwrdd i adolygu ei Benderyfniad wrth i'r Senedd baratoi i ddod yn gorff â 96 o Aelodau.
Mae'r cam hwn o'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Tâl yr Aelodau
- Cymorth ychwanegol i'r Aelodau
- Cymorth staffio
- Costau teithio
Dr Elizabeth Haywood yw Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd:
"Mae'r Aelodau o'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein democratiaeth ac rydym yn credu y dylai eu cyflog adlewyrchu'r rôl honno a'u cyfrifoldebau. Rydym hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb, gan leihau'r rhwystrau fel y gall y Senedd adlewyrchu cymdeithas, lle y all unrhyw un, waeth beth fo'i gefndir neu ei amgylchiadau, ddod yn Aelod o'r Senedd. Mae angen adnoddau ar yr Aelodau hefyd i gyflogi staff i roi cymorth gwerthfawr iddyn nhw a'u hetholwyr."
"Ar ôl ystyriaeth ofalus, ein barn ni yw bod lefel cyflog presennol yr Aelodau yn deg ac yn adlewyrchu eu rôl a'u cyfrifoldebau. Rydym felly yn cynnig y dylai barhau ar yr un lefel yn y Senedd nesaf, gan gynyddu dim ond yn unol ag ASHE (sef enillion cyfartalog Cymru) a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd."
"Rydym yn cydnabod y gall lefel cyflog Aelodau etholedig ysgogi dadl a pheth anghytuno, ac rydym yn annog pob darn o adborth ar y materion pwysig hyn."
"Mae ein cynigion wedi'u llywio gan ein dyletswyddau statudol a'n hegwyddorion craidd er mwyn sicrhau bod tâl yr Aelodau'n deg a'u bod yn cael digon o adnoddau i gefnogi eu dyletswyddau, a sicrhau bod penderfyniadau'n cynnig gwerth am arian."
Mae’r ymgynghoriad yn agor ar 2 Ebrill, ac yn dod i ben am 17:00, dydd Mercher 4 Mehefin 2025. Mae gwybodaeth am y cynigion a sut i gyflwyno sylwadau ar gael ar wefan y Bwrdd.
Dyma’r ail ymgynghoriad yn adolygiad dwy ran y Bwrdd o’i Benderfyniad ar gyfer y Senedd nesaf wrth iddi Senedd baratoi ar gyfer y newid mwyaf ers datganoli – dod yn senedd â 96 o Aelodau, a chanddi fwy o bŵer i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, llunio cyfreithiau newydd a chynrychioli pobl Cymru yn well.
Ar gyfer yr etholiad ym mis Mai 2026, bydd ffiniau etholaethol diwygiedig hefyd yn cael eu cyflwyno o dan system etholiadol newydd, lle bydd chwe Aelod yn cynrychioli pob un o’r 16 o etholaethau newydd.
Bydd hyn yn gofyn am newidiadau sylweddol i'r Penderfyniad ac i'r Bwrdd benderfynu ar y cymorth priodol i Aelodau i'w galluogi i wneud eu gwaith yn effeithiol, tra hefyd yn sicrhau gwerth am arian i bobl Cymru.
Nodiadau i'r golygyddion
Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd – y corff annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau ar gyflogau’r Aelodau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt i wneud eu gwaith yn effeithiol – yn gwahodd sylwadau ar newidiadau arfaethedig i’r darpariaethau a’r cymorth a fydd ar gael i’r Aelodau yn y Senedd nesaf, ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2026.
Mae ail gam yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Cyflog yr Aelodau: mae’r Bwrdd yn cynnig y bydd lefel cyflog yr Aelodau ar ddechrau’r Seithfed Senedd yn aros ar yr un lefel ag yn 2025/26, ynghyd â chynnydd sy’n hafal i gyfradd mynegai ASHE Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025.
- Cymorth ychwanegol i’r Aelodau: cynigion i ddarparu cymorth ychwanegol i Aelodau sy’n anabl neu sydd â chyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys addasu cymorth ar gyfer gofalu am ddibynyddion y tu allan i oriau gwaith arferol ac ar gyfer llety dros nos.
- Costau teithio: ailosod terfynau ar gostau teithio rhwng etholaethau’r Aelodau a mynychu busnes yng Nghaerdydd.
- Costau staffio: cynnig i gyflwyno fframwaith cyflogau a graddau teuluoedd swyddi ar gyfer staff cymorth, wedi’i feincnodi yn erbyn rolau sector cyhoeddus Cymru.
Cynhaliwyd cam cyntaf yr ymgynghoriad yn nhymor yr hydref 2024 ac roedd yn canolbwyntio ar lety dros nos; swyddfeydd etholaethol ac ymgysylltu; a chymorth i grwpiau’r Senedd.
Bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ei benderfyniad terfynol ar ôl cwblhau’r ddau ymgynghoriad yn haf 2025.
Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Bwrdd Taliadau.
Mae’r Bwrdd yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y taliadau a'r adnoddau cywir ar gael i Aelodau o’r Senedd fel y gallant gyflawni eu rôl. Mae hyn yn cynnwys pennu cyflogau’r Aelodau yn ogystal â chymorth arall iddynt megis costau staffio a swyddfa.
Mae cyfres o egwyddorion a ddiffiniwyd yn glir yn sail i waith y Bwrdd:
- dylai cymorth ariannol a thâl yr Aelodau gefnogi diben strategol y Senedd a hwyluso gwaith ei Haelodau;
- rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru;
- rhaid i’r system o gymorth ariannol i’r Aelodau fod yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy ac yn gynhwysol, a rhaid iddi gynnig gwerth am arian i’r trethdalwr.