Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft
Pwrpas yr ymgynghoriad
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi’r rhesymeg dros y newidiadau a gynigir i’r tâl a’r adnoddau sydd ar gael i Aelodau yn y Chweched Cynulliad.
Mae manylion llawn am y cylch gorchwyl a sut i roi tystiolaeth ysgrifenedig wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori ac ar wefan y Bwrdd Taliadau.
Darllenwch ddatganiad y Bwrdd i’r wasg yma.
Dyma benllanw blwyddyn o adolygu’r Penderfyniad cyfredol ar dri cham, lle gwelwyd y Bwrdd yn gofyn barn yr Aelodau, eu staff a’r cyhoedd ar y cynigion ar gyfer newid.
Wrth baratoi’r Penderfyniad drafft hwn, nid yw’r Bwrdd wedi cynnig unrhyw gynnydd yng nghyflog yr Aelodau ar gyfer y Chweched Cynulliad. At hynny, mae’r Bwrdd wedi bod yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau posibl sy’n atal pobl rhag sefyll yn etholiadau’r Cynulliad fel ffordd o helpu i ddenu amrywiaeth eang o ymgeiswyr. Mae’r gwaith wedi cael ei lywio gan ymchwil a gomisiynwyd gan y Bwrdd i’r rhwystrau a’r cymhellion o ran sefyll ar gyfer etholiad i’r Cynulliad.
Mae cynigion y Bwrdd ar gyfer y Penderfyniad yn cynnwys:
- dim cynnydd yng nghyflog yr Aelodau ar gyfer y Chweched Cynulliad, heblaw mynegeio blynyddol yn unol â’r trefniadau presennol;
- lwfans i helpu’r Aelodau i dalu costau sy’n ymwneud ag anabledd neu anableddau. Mae’r lwfans hwn yn ehangu’r ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes;
- adnoddau ychwanegol i helpu gyda llwyth gwaith Aelod yn ystod cyfnod o absenoldeb rhiant; a
- chyfraniad tuag at gostau gofal ar gyfer plant a/neu ddibynyddion pan fydd yn ofynnol i Aelodau weithio y tu hwnt i’r oriau gwaith arferol. Byddai ad-dalu costau o’r fath yn ddarostyngedig i derfyn misol penodol, a dim ond yn daladwy drwy ddangos derbynebau gan ddarparwyr gofal sy’n cael eu rheoleiddio.
Mae manylion llawn am gynigion y Bwrdd wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori.
Cylch gorchwyl
Yn ei adroddiad strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd Taliadau ei ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad, flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021. Mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad. Ystyried
- pa mor addas yw lefel y cymorth a ddarperir yn y Penderfyniad;
- hyblygrwydd, rhagnodoldeb a hygyrchedd y darpariaethau;
- gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael i Aelodau.
Datgelu gwybodaeth
Sicrhewch eich bod wedi ystyried sut y bydd y Bwrdd yn defnyddio’ch gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd. Nodir hyn yn y ddogfen ymgynghori.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb yw dydd Mawrth 24 Mawrth 2020. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Dogfennau ategol
- Y ddogfen ymgynghori
- Y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad
- Y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad – yn dangos y newidiadau – Atodiad*
*Mae’r newidiadau a amlinellwyd yn y ddogfen hon yn adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad a’r Penderfyniad ar gyfer 2019-20.