Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Cyhoeddwyd 05/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft

 Pwrpas yr ymgynghoriad 

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi’r rhesymeg dros y newidiadau a gynigir i’r tâl a’r adnoddau sydd ar gael i Aelodau yn y Chweched Cynulliad.  

Mae manylion llawn am y cylch gorchwyl a sut i roi tystiolaeth ysgrifenedig wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori ac ar wefan y Bwrdd Taliadau 

Darllenwch ddatganiad y Bwrdd i’r wasg yma 

Dyma benllanw blwyddyn o adolygu’r Penderfyniad cyfredol ar dri cham, lle gwelwyd y Bwrdd yn gofyn barn yr Aelodau, eu staff a’r cyhoedd ar y cynigion ar gyfer newid.  

Wrth baratoi’r Penderfyniad drafft hwn, nid yw’r Bwrdd wedi cynnig unrhyw gynnydd yng nghyflog yr Aelodau ar gyfer y Chweched Cynulliad. At hynny, mae’r Bwrdd wedi bod yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau posibl sy’n atal pobl rhag sefyll yn etholiadau’r Cynulliad fel ffordd o helpu i ddenu amrywiaeth eang o ymgeiswyr. Mae’r gwaith wedi cael ei lywio gan ymchwil a gomisiynwyd gan y Bwrdd i’r rhwystrau a’r cymhellion o ran sefyll ar gyfer etholiad i’r Cynulliad.  

Mae cynigion y Bwrdd ar gyfer y Penderfyniad yn cynnwys:  

  • dim cynnydd yng nghyflog yr Aelodau ar gyfer y Chweched Cynulliad, heblaw mynegeio blynyddol yn unol â’r trefniadau presennol; 
  • lwfans i helpu’r Aelodau i dalu costau sy’n ymwneud ag anabledd neu anableddau. Mae’r lwfans hwn yn ehangu’r ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes;   
  • adnoddau ychwanegol i helpu gyda llwyth gwaith Aelod yn ystod cyfnod o absenoldeb rhiant; a 
  • chyfraniad tuag at gostau gofal ar gyfer plant a/neu ddibynyddion pan fydd yn ofynnol i Aelodau weithio y tu hwnt i’r oriau gwaith arferol. Byddai ad-dalcostau o’r fath yn ddarostyngedig i derfyn misol penodol, a dim ond yn daladwy drwy ddangos derbynebau gan ddarparwyr gofal sy’n cael eu rheoleiddio. 

Mae manylion llawn am gynigion y Bwrdd wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori. 

Cylch gorchwyl 

Yn ei adroddiad strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd Taliadau ei ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad, flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021. Mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad. Ystyried 

  • pa mor addas yw lefel y cymorth a ddarperir yn y Penderfyniad; 
  • hyblygrwydd, rhagnodoldeb a hygyrchedd y darpariaethau; 
  • gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael i Aelodau. 

Datgelu gwybodaeth 

Sicrhewch eich bod wedi ystyried sut y bydd y Bwrdd yn defnyddio’ch gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd. Nodir hyn yn y ddogfen ymgynghori. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb yw dydd Mawrth 24 Mawrth 2020. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. 

Dogfennau ategol 

*Mae’r newidiadau a amlinellwyd yn y ddogfen hon yn adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad a’r Penderfyniad ar gyfer 2019-20.