25 Medi 2025
Bydd cyflogau Aelodau o’r Senedd yn aros ar y lefel bresennol, yn dilyn adolygiad gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, a byddant yn parhau i fod yn gysylltiedig â newidiadau blynyddol i gyflogau cyfartalog Cymru ar gyfer y tymor i ddod.
Mae’r Bwrdd wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar gyfer cyflogau Aelodau o’r Senedd a chostau busnes a staffio’r rhai a gaiff eu hethol o fis Mai y flwyddyn nesaf, yn dilyn adolygiad ac ymgynghoriad helaeth, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y rhan fwyaf o gostau busnes yn parhau i fod yn briodol, ac y byddant yn gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer y Senedd newydd.
Dywedodd Dr Elizabeth Heywood, Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd y canlynol:
“Mae Aelodau o’r Senedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein democratiaeth a dylai eu cyflog adlewyrchu eu cyfrifoldebau. Yn dilyn ein hadolygiad manwl, rydym wedi penderfynu nad oes angen newid lefel bresennol cyflog Aelodau yn y Senedd nesaf, a bydd yn parhau i fod yn gysylltiedig â newidiadau blynyddol i gyflogau cyfartalog Cymru a gaiff eu cyhoeddi gan y SYG ym mis Tachwedd.
“Mae gan Aelod o'r Senedd rôl heriol a hanfodol bwysig. Mae’r adnoddau busnes a staffio a ddarperir i’r Aelodau’n eu helpu i ymgysylltu â’u cymunedau a’u cynrychioli, yn ogystal ag ymgymryd â’u dyletswyddau seneddol yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
“Mae'r Bwrdd yn darparu adnoddau rhesymol i Aelodau gyflogi staff i’w cefnogi i wneud eu gwaith; bydd y cyllidebau staffio hyn yn cynyddu 2.6% yn dilyn adolygiad o gyflog staff, lle y mae’r Bwrdd wedi meincnodi cyflogau yn erbyn rolau cymaradwy ym marchnad swyddi Cymru.
“Mae darpariaeth llety dros nos wedi’i hadolygu ar ôl y newid yn ffiniau etholaethol. Mae’r ddarpariaeth hon yn cefnogi Aelodau sy’n cynrychioli etholaethau ar draws Cymru i aros yng Nghaerdydd pan fyddant ar fusnes y Senedd, yn ogystal â chymorth i Aelodau sy’n anabl neu sydd â chyfrifoldebau gofalu.
“Wrth benderfynu ar y costau busnes priodol sydd ar gael i’r Aelodau, mae’r Bwrdd yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb. Ein nod yw lleihau’r rhwystrau fel y gall y Senedd adlewyrchu cymdeithas Cymru, fel y gall unrhyw un, ni waeth beth yw ei gefndir neu ei amgylchiadau, ddod yn Aelod o’r Senedd.
“Drwy bob agwedd ar ein gwaith, mae’r Bwrdd yn dilyn egwyddorion clir ac mae ganddo ddyletswyddau cyfreithiol i sicrhau bod gan yr Aelodau adnoddau digonol i wneud eu gwaith. Rydym yn sicrhau bod penderfyniadau ar sail gwybodaeth ac yn ystyried y sefyllfa ariannol ehangach, i gynrychioli gwerth am arian i bobl Cymru.”
Mae rhagdybiaethau cyllidebol ar gyfer cyflogau a chymorth busnes a staffio’r Aelodau’n cael eu pennu gan Gomisiwn y Senedd, y cyhoeddwyd manylion amdanynt yng nghyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd ar 25 Medi.
Mae’r Bwrdd wrthi’n gweithio ar symleiddio’r Penderfyniad, y ddogfen sy’n nodi penderfyniadau’r Bwrdd ar gyflogau a chostau busnes a staffio, i’w gwneud yn gliriach ac yn haws i’w deall, a bydd yn cyhoeddi ei Benderfyniad drafft ym mis Rhagfyr.