Bwrdd Taliadau Annibynnol yn gosod strategaeth newydd ar gyfer cefnogi Aelodau o'r Senedd yn ystod cyfnod o newid

Cyhoeddwyd 09/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw (dydd Iau 9 Rhagfyr) mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (y Bwrdd) wedi cyhoeddi ei Strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd, gan nodi diwygio'r Senedd, newid hinsawdd a'r pandemig iechyd byd-eang fel prif gymhelliad wrth iddynt osod y gefnogaeth sydd ei angen ar Aelodau o’r Senedd i gyflawni eu gwaith.

Prif amcan y Bwrdd yw cyflwyno Penderfyniad sydd yn fwy syml, ymatebol a chynaliadwy, yn sicrhau gwerth am arian ac yn hyrwyddo ymddiriedaeth y cyhoedd.

Mae'r Bwrdd wedi amlygu meysydd allweddol y bydd yn canolbwyntio arnynt er mwyn cyflwyno Penderfyniad sydd:

  1. yn ymateb i anghenion busnes newidiol Aelodau, disgwyliadau dinasyddion a'r cyd-destun cyfansoddiadol esblygol.
  2. wedi’i symleiddio i ddarparu hyblygrwydd i Aelodau i bennu eu blaenoriaethau eu hunain, gyda mesurau diogelwch cymesur, mewn cydweithrediad â Chomisiwn y Senedd.
  1. yn cyflwyno model cynaliadwy o gefnogaeth, sy'n ystyried anghenion o ran amrywiaeth, yr argyfwng newid yn yr hinsawdd a chyllid yn y tymor hir yng Nghymru.

“Mae’r heriau sy’n wynebu’r Senedd a’i Haelodau dros y blynyddoedd i ddod yn wahanol iawn i heriau unrhyw un o’i rhagflaenwyr,” eglura Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.

“Mae agenda diwygio'r Senedd yn cael ei hystyried ar hyn o bryd ac mae'r cyfansoddiad y mae'r Senedd yn gweithredu oddi mewn iddo yn parhau i esblygu. Ar yr un pryd, mae Aelodau wedi bod yn ymgymryd â'u dyletswyddau drwy’r amgylchiadau heriol sydd wedi codi o ganlyniad i bandemig iechyd byd-eang.

“Mae hyn wedi ein tywys at adolygu pa fath o drefniadau gwaith posib fydd gan Aelodau o'r Senedd yn y dyfodol. Ar ben hyn, mae cymunedau yng Nghymru yn teimlo effaith newid hinsawdd ac mae cyfleoedd newydd yn dod i'r amlwg i newid ein ffordd o fyw. Mae'n amlwg bod gan bawb rôl i'w chwarae o ran lleihau ein ôl troed carbon.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi ystyried yr heriau hyn, a pha ddylanwad y gallant ei gael ar ein rhaglen waith strategol. Mae'r ddogfen hon yn nodi ein hymateb a'n hamcanion strategol ar gyfer 2021-26, a fydd yn parhau hyd at etholiad nesaf y Senedd.”

Mae'r Strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd i'w gweld ar wefan y Bwrdd Taliadau Annibynnol, ynghyd â mwy o wybodaeth am waith y Bwrdd a'r Penderfyniad ar gyfer y Senedd hon.