Croeso
Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau'r Senedd y tâl a'r adnoddau priodol sydd ar gael iddynt i ymgymryd â'u rôl. Mae hyn yn cynnwys pennu cyflogau Aelodau yn ogystal â'u lwfansau eraill fel costau staffio a chostau swyddfa.
Y Diweddaraf
Ymgynghoriad Rhan Dau ar y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd:
Lansiodd y Bwrdd ei ymgynghoriad ar Ran Dau o’r Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd ar 2 Ebrill 2025. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 4 Mehefin 2025.
Gwelir y cynigion yma a datganiad i'r wasg yma.
Penderfyniad 2025-26:
Cyhoeddodd y Bwrdd y Penderfyniad 2025-26, Datganiad Eithriadol a Llythyr Penderfynu ar 28 Mawrth 2025.
Adroddiad Ymgynghoriad Rhan Un:
Cyhoeddodd y Bwrdd Adroddiad ar ei Ymgynghoriad Rhan Un ar 28 Mawrth 2025.