Ymgynghoriadau agored

Cyhoeddwyd 21/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/10/2024   |   Amser darllen munud

Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Un

Mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi lansio ei ymgynghoriad ar Ran Un o’r Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd. Bydd yr ymgynghoriad yn para o 25 Hydref i 6 Rhagfyr 2024.

 

Mae’r Bwrdd yn awgrymu nifer o gynigion i newid y rheolau ar ad-dalu costau sy’n ymwneud â llety dros nos, swyddfeydd etholaethol ac ymgysylltu ag etholwyr, a’r cymorth sydd ar gael i grwpiau gwleidyddol yn y Senedd.

 

Bydd y newidiadau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn, yn dilyn ymgynghoriad ac adolygiad dilynol, yn cael eu hadlewyrchu ym Mhenderfyniad y Bwrdd o ddechrau’r Seithfed Senedd ymlaen h.y. yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.