Gwelir manylion Ymgynghoriadau Agored ac Ymgynghoriadau Gorffennol y Bwrdd Taliadau Annibynnol.
Os hoffech ymateb i unrhyw un o ymgynghoriadau’r Bwrdd sy’n dal i fynd rhagddynt, ymgyfarwyddwch â pholisi preifatrwydd y Bwrdd.
Dyletswydd y Bwrdd i Ymgynghori
Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 yn gosod dyletswydd ar y Bwrdd i ymgynghori â’r rhai y mae unrhyw un o’i newidiadau arfaethedig i’r Penderfyniad a’r pecyn cymorth a gynigir i’r Aelodau a’r staff cymorth yn debygol o effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori â’r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Aelodau Seneddol,
- staff a gyflogir gan Aelodau Seneddol (neu gan grwpiau o Aelodau),
- undebau llafur perthnasol,
- rhanddeiliaid perthnasol.