Mae Jane yn Gymrawd Gwadd mewn Arweinyddiaeth Gyhoeddus
yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored.
Rhwng 2000 a 2005, Jane oedd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref
Camden yn Llundain, ac ers hynny mae wedi gwasanaethu mewn nifer o rolau
anweithredol gan gynnwys Cadeirydd Comisiwn Cynghorwyr yr Adran Cymunedau a
Llywodraeth Leol, Cadeirydd Parenting UK, aelod o fwrdd Ofsted, Cadeirydd
Rhwydwaith Llywodraeth Leol Newydd ac, ar hyn o bryd, Cadeirydd yr elusennau
Living Streets a Stammering Chidren.
Mae hi hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori Canolfan
Polisi Cyhoeddus Cymru. Urddwyd Jane yn DBE yn 2004. Yn broffesiynol, mae hi’n
feddyg ac mae’n Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc Er Anrhydedd â
phrofiad o uwch-reoli ym maes gofal iechyd yn y GIG.
Mae Jane wedi cyhoeddi nifer o erthyglau academaidd am
bediatreg, seiciatreg a gwleidyddiaeth. Golygodd ‘The Politics of Attachment’
(1996) ar y cyd â Sebastian Kraemer, a hi yw awdur ‘Losing Political Office’
(2017). Dyfarnwyd PhD iddi yn y Brifysgol Agored (2021).
Mae Jane wedi bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol
er 2015.