Pobl y Bwrdd Taliadau

Dr Elizabeth Haywood

Dr Elizabeth Haywood

Fy Ngweithgareddau y Senedd

Myw o wybodaeth a ddigwyddiad y Calendr

Gwybodaeth fanwl: Dr Elizabeth Haywood

Bywgraffiad

Mae Elizabeth yn Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd profiadol. Yn flaenorol mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn gadeirydd ei Bwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd, yn aelod o Fwrdd Scottish Power Energy Networks, Grŵp Hendre, Leonard Cheshire, yn aelod annibynnol o Fwrdd Taliadau Swyddfa Archwilio Cymru, ac yn Gadeirydd cyntaf CGGC Services Ltd. Cadeiriodd Dasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Ddinas-ranbarthau.

Treuliodd ei gyrfa gynnar yn Senedd Ewrop ac Awdurdod Datblygu Cymru, cyn iddi gael ei phenodi’n Gyfarwyddwr CBI Cymru, yna’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Cymdeithas y Cwmnïau Trenau ac yna fe redodd gwmni chwilio am uwch-swyddogion yng Nghaerdydd a Llundain.

Mae ganddi radd economeg o Brifysgol Caerdydd, PhD a doethuriaeth er anrhydedd gan Abertawe, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Cymraes y Flwyddyn, ac mae’n Gymrawd Mygedol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cafodd Elizabeth ei phenodi’n Gadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ym mis Mehefin 2020.

Aelodaeth

Digwyddiadau calendr: Dr Elizabeth Haywood