Mae’r Bwrdd Taliadau yn gyfrifol am bennu cyflogau, pensiynau a lwfansau Aelodau o’r Senedd a staff cymorth Aelodau.
Mae’r rheolau sy’n ymwneud â’r hyn y mae ganddynt hawl i’w hawlio wedi’u cynnwys yn y Penderfyniad.
Ceir crynodeb isod o benodau’r Penderfyniad:
Egwyddorion Cymorth Ariannol: Dylai’r cymorth ariannol a’r taliadau i Aelodau gefnogi pwrpas strategol y Senedd a hwyluso gwaith ei Aelodau; rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru; a rhaid i’r system cymorth ariannol i’r Aelodau fod yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy a rhoi gwerth am arian i’r trethdalwr.
Rheolau Cyflwyno Hawliadau: Rheolau â’r nod o ategu’r egwyddorion sy’n sail i ad-dalu treuliau.
Taliadau Aelodau: Mae hyn yn cynnwys y cyflog y mae gan holl Aelodau a Deiliaid Swyddi yn y Senedd a Llywodraeth Cymru hawl i’w gael a manylion am eu cynllun pensiwn.
Cymorth Ychwanegol: Mae hwn yn amlinellu cymorth ychwanegol o ran anableddau, chyfrifoldebau gofal plant ac erall, ac absenoldeb rhiant.
Gwariant ar Lety Preswyl: Y swm y gellir ei ad-dalu i Aelodau am aros dros nos i ffwrdd o’u prif gartrefi mewn cysylltiad â’u rôl fel Aelod o’r Senedd. Mae’r swm hwn yn dibynnu a yw eu prif gartref yn yr ardal fewnol, ryngol neu allanol.
Siwrneiau’r Aelodau: Mae’r bennod hon yn ymdrin â’r mathau o siwrneiau y mae’r Aelodau yn eu gwneud ar fusnes y Senedd. Mae hefyd yn cynnwys siwrneiau gan bartneriaid, plant a staff yr Aelodau.
Costau Swyddfa: Lwfans i ad-dalu i Aelodau gostau rhesymol sy’n gysylltiedig â chynnal swyddfa ac ymgysylltu ag etholwyr.
Cymorth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad: Costau gwariant staffio er mwyn galluogi’r Aelod i gyflawni ei ddyletswyddau fel Aelod.
Cymorth ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol: Cymorth ar gyfer pleidiau ac Aelodau unigol i gyflawni eu gwaith yn y Senedd.
Aelodau sy’n Gadael y Swydd: Helpu’r rhai nad ydynt yn Aelodau mwyach i gwblhau unrhyw waith a oedd ar y gweill ar yr adeg iddynt beidio â bod yn Aelodau.
Rhaid i newidiadau i’r Penderfyniad fod yn destun ymgynghoriad â’r rhai y mae’n debygol y bydd ei benderfyniad yn effeithio arnynt.
Gwelir ymgynghoriadau'r Bwrdd yma.