Am y Penderfyniad

Cyhoeddwyd 01/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2021   |   Amser darllen munud

Mae’r Bwrdd Taliadau yn gyfrifol am bennu cyflogau, pensiynau a lwfansau Aelodau o’r Senedd a staff cymorth Aelodau.

Mae’r rheolau sy’n ymwneud â’r hyn y mae ganddynt hawl i’w hawlio wedi’u cynnwys yn y Penderfyniad. Ceir crynodeb isod o benodau’r Penderfyniad:

Pennod 1 – Egwyddorion cymorth ariannol: Dylai’r cymorth ariannol a’r taliadau i Aelodau gefnogi pwrpas strategol y Senedd a hwyluso gwaith ei Aelodau; rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru; a rhaid i’r system cymorth ariannol i’r Aelodau fod yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy a rhoi gwerth am arian i’r trethdalwr.

Pennod 2 – Rheolau cyflwyno hawliadau: Rheolau â’r nod o ategu’r egwyddorion sy’n sail i ad-dalu treuliau.

Pennod 3 – Taliadau Aelodau: Mae hyn yn cynnwys y cyflog y mae gan holl Aelodau a Deiliaid Swyddi yn y Senedd a Llywodraeth Cymru hawl i’w gael a manylion am eu cynllun pensiwn.

Pennod 3A –  Cymorth Ychwanegol: Mae hwn yn amlinellu cymorth ychwanegol o ran anableddau, chyfrifoldebau gofal plant ac erall, ac absenoldeb rhiant.

Pennod 4 – Gwariant ar Lety Preswyl: Y swm y gellir ei ad-dalu i Aelodau am aros dros nos i ffwrdd o’u prif gartrefi mewn cysylltiad â’u rôl fel Aelod o’r Senedd. Mae’r swm hwn yn dibynnu a yw eu prif gartref yn yr ardal fewnol, ryngol neu allanol.

Pennod 5 – Siwrneiau’r Aelodau: Mae’r bennod hon yn ymdrin â’r mathau o siwrneiau y mae’r Aelodau yn eu gwneud ar fusnes y Senedd. Mae hefyd yn cynnwys siwrneiau gan bartneriaid, plant a staff yr Aelodau.

Pennod 6 – Costau swyddfa: Lwfans i ad-dalu i Aelodau gostau rhesymol sy’n gysylltiedig â chynnal swyddfa ac ymgysylltu ag etholwyr.

Pennod 7 – Cymorth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad: Costau gwariant staffio er mwyn galluogi’r Aelod i gyflawni ei ddyletswyddau fel Aelod.

Pennod 8 – Cymorth ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol: Cymorth ar gyfer pleidiau ac Aelodau unigol i gyflawni eu gwaith yn y Senedd.

Pennod 9 – Aelodau sy’n gadael y swydd: Helpu’r rhai nad ydynt yn Aelodau mwyach i gwblhau unrhyw waith a oedd ar y gweill ar yr adeg iddynt beidio â bod yn Aelodau.

Rhaid i newidiadau i’r Penderfyniad fod yn destun ymgynghoriad â’r rhai y mae’n debygol y bydd ei benderfyniad yn effeithio arnynt.