Penderfyniad ar Gostau Aelodau o ran Cyflog, Staff a Busnes 2026-27

Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd sy’n penderfynu ar y tâl a’r cymorth sydd ar gael i Aelodau o’r Senedd. Ei nod yw denu ystod eang o ymgeiswyr galluog a helpu’r Aelodau i wneud eu swyddi’n dda, gan sicrhau gwerth da i’r cyhoedd.

Mae’r Penderfyniad yn nodi’r cymorth ariannol y gall Aelodau ei gael a’r rheolau o ran yr hyn y gallant ei hawlio i’w helpu i gyflawni eu rôl.

Ceir isod grynodeb o bob pennod yn y Penderfyniad. Mae’r egwyddorion a’r rheolau a nodir ym Mhennod 1 yn gymwys i bob pennod yn y Penderfyniad.

Cynnwys

Bennod 1. Egwyddorion, Rheolau a Dehongliad

Mae’r Bennod hon yn nodi'r egwyddorion sy'n sail i'r Penderfyniad hwn ac yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddilyn yr egwyddorion hynny.

Mae’r Bennod hon hefyd yn nodi rheolau cyffredinol sy’n berthnasol i gyflwyno hawliadau, hawliadau am gostau nad ydynt yn dod o fewn Penodau 2 i 9 ac ystyr gwahanol dermau a ddefnyddir yn y Penderfyniad hwn.


Ewch i bennod 1

Bennod 2. Tâl Aelodau a Deiliaid Swyddi Ychwanegol

Diben y Bennod hon yw darparu Aelod â lefel o daliad (gan gynnwys cyflog a buddion pensiwn) sy'n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd eu swyddogaethau, ac nad yw, am resymau ariannol, yn rhwystro pobl sydd â'r ymrwymiad a'r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol i'r Senedd.

Ewch i bennod 2

Bennod 3. Cymorth Ychwanegol

Diben y Bennod hon yw caniatáu i Aelodau hawlio costau cymorth ychwanegol sy'n ymwneud ag anableddau a chyflyrau meddygol a chyfrifoldebau gofalu a rhianta, er mwyn cefnogi Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau. Mae, hefyd, yn darparu ar gyfer diogelwch ym mhrif gartref Aelod.

Ewch i bennod 3

Bennod 4. Llety Dros Nos

Diben y Bennod hon yw caniatáu i Aelodau hawlio am gostau sy'n codi pan fydd angen iddyn nhw (neu eu staff cymorth) aros o’u cartrefi i gyflawni eu dyletswyddau. Mae'n rhoi hyblygrwydd i Aelodau drefnu arosiadau i ffwrdd o’u cartrefi yn y ffordd sy'n gweddu orau i'w harferion gwaith a'u cyfrifoldebau gofalu.

Ewch i bennod 4

Bennod 5. Teithio

Diben y Bennod hon yw caniatáu i Aelodau hawlio costau teithio a chynhaliaeth i’w hunain, eu staff cymorth a chostau teithio eu teuluoedd, pan fydd angen i Aelodau deithio i gyflawni eu dyletswyddau. Mae’n rhoi hyblygrwydd i Aelodau drefnu eu trefniadau gwaith yn y ffordd sy'n gweddu orau i'w harferion gwaith.

Ewch i bennod 5

Bennod 6. Gwaith Etholaethol

Diben y Bennod hon yw caniatáu i Aelodau hawlio am gostau sy'n ymwneud â gweithio yn eu hetholaethau, a'u cynrychioli. Mae’n cynnwys ymgysylltu ag etholwyr, cefnogaeth ar gyfer ymchwil a datblygu polisi, a chostau sy'n ymwneud â safleoedd a ddefnyddir i gyflawni dyletswyddau'r Senedd (h.y. safleoedd etholaethol) lle mae'r Aelodau’n dewis eu cael. Mae hawliadau sy’n ymwneud â theithio a staffio wedi'u nodi ym Mhenodau 5 a 7.

Ewch i bennod 6

Bennod 7. Staff Cymorth

Diben y Bennod hon yw caniatáu i Aelodau hawlio costau cyflogi staff cymorth. Mae’r Bennod, hefyd, yn rhoi fframwaith i Aelodau sy’n rhaid ei ddefnyddio i gyflogi staff cymorth os yw eu cyflogau, eu costau cyflogaeth, teithio a chynhaliaeth cysylltiedig, a’r hyn sydd ganddynt yr hawl iddo, i'w hariannu o dan Penderfyniad hwn.

Ewch i bennod 7

Bennod 8. Cymorth i Grwpiau

Diben y Bennod hon yw darparu adnoddau i Grwpiau'r Senedd ar gyfer gweinyddiaeth ganolog a chydlynu, cefnogaeth ar gyfer gwaith craffu, ymchwil a datblygu polisïau sy'n gysylltiedig â dyletswyddau Aelodau, cefnogaeth gyda chyfathrebu, cefnogaeth fugeiliol a llesiant, offer a gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys costau sy'n ymwneud â staffio, teithio, gwasanaethau a gomisiynir yn allanol, yn ogystal â gweithredu swyddfa grŵp.

Ewch i bennod 8

Bennod 9. Aelodau sy'n Gadael eu Swyddi

Diben y Bennod hon yw gwneud darpariaeth i dalu'r costau sy'n codi pan fydd Aelod yn peidio â bod yn Aelod. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dirwyn ymrwymiadau cytundebol i ben a chau gwaith achos sydd ar y gweill, taliad dirwyn i ben ac ailsefydlu, rhoi sicrwydd i ymgeiswyr posibl ynghylch eu dyfodol, a thaliadau i Aelodau sy'n mynd yn sâl.

Ewch i bennod 9

 


Atodiad A: Cyflogau a Chyllidebau ar gyfer 2026-27 (o 7 Mai 2026)

Atodiad B: Hawliau i'w cynnwys mewn cytundebau cyflogaeth Staff Cymorth

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd