Ymgynghoriad terfynol ar y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd

Cyhoeddwyd 15/12/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/12/2025

15 Rhagfyr 2025

Mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cyhoeddi ei Benderfyniad drafft ar gyfer y Seithfed Senedd ac wedi dechrau ar ei ymgynghoriad terfynol heddiw (dydd Llun 15 Rhagfyr 2025).

Mae'r Penderfyniad drafft hwn yn dilyn adolygiad helaeth a gynhaliwyd yn ystod y Chweched Senedd, a oedd yn cynnwys dau ymgynghoriad cyhoeddus, i sicrhau bod gan yr Aelodau a'u staff yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rolau'n effeithiol yn y cyfnod seneddol nesaf.

Daw'r Penderfyniad drafft ar adeg hollbwysig, wrth i'r Senedd baratoi ar gyfer y newid mwyaf arwyddocaol ers datganoli, i ddod yn Senedd o 96 o Aelodau, gyda system etholiadol newydd a ffiniau etholaethau diwygiedig.

Mae'r ymgynghoriad yn parhau tan ddydd Mercher 4 Chwefror 2026, ac mae'n gofyn barn ar:

  • Y Penderfyniad drafft diwygiedig a symlach, a gynlluniwyd i fod yn gliriach, yn fwy hygyrch, ac yn dryloyw;
  • Cyfres fach o newidiadau polisi arfaethedig ychwanegol, e.e. cymorth i staff os oes angen i swyddfa Aelod adleoli oherwydd newidiadau yn ei etholaeth; ac
  • Y cynnydd chwyddiant blynyddol o ran cefnogaeth ariannol ar gyfer 2026–27

Ym mis Gorffennaf 2025, cadarnhaodd y Bwrdd benderfyniadau allweddol ar gyflogau Aelodau a’u staff, ac ar lety dros nos a chostau gwaith etholaethol, ymhlith darpariaethau eraill. Roedd y penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymgynghori helaeth ac ni chaiff y materion hyn eu hailystyried yn yr ymgynghoriad terfynol hwn.

Dywedodd Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd:

"Mae'r Penderfyniad drafft hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y Bwrdd i eglurder, tegwch a thryloywder; mae'n ddogfen fyrrach, symlach a haws i'w deall, gyda'r nod o fod o gymorth o ran gweinyddu a dealltwriaeth.

“Rydym wedi casglu tystiolaeth helaeth ac wedi ystyried amrywiaeth o safbwyntiau, ac eisoes wedi cynnal dau ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod y broses hon.

“Ein nod yw sicrhau bod yr Aelodau a’u staff â’r cyfarpar i gyflawni heriau’r Seithfed Senedd – sydd â rhagor o Aelodau, trefniadau etholaethol newydd, a ffyrdd o weithio sy’n esblygu.  Wrth i'r Senedd newid, ein blaenoriaeth parhaus yw darparu cefnogaeth briodol wrth ddarparu gwerth am arian ar yr un pryd."

Mae'r Penderfyniad drafft a'r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan y Bwrdd Taliadau Annibynnol, ynghyd â manylion ar sut i ymateb.