Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer costau busnes Aelodau o’r Senedd wedi dechrau

Cyhoeddwyd 09/01/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2023   |   Amser darllen munud

Mae ymgynghoriad ar gynigion newydd ar gyfer costau busnes Aelodau o'r Senedd wedi dechrau.

Mae Bwrdd Taliadau’r Senedd – y corff annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau ar gyflogau’r Aelodau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt – yn gwahodd sylwadau ar y newidiadau arfaethedig i faint o gymorth ariannol sydd ar gael i dalu costau busnes yr Aelodau er mwyn iddynt allu gwneud eu gwaith yn effeithiol.

Mae'r Bwrdd yn cynnig codiad o 10.1 y cant yn lwfansau’r Aelodau – y gellir eu hawlio i dalu costau rhedeg swyddfeydd ac ar gyfer llety preswyl i’r Aelodau sy'n byw y tu allan i Gaerdydd. Mae’r cynnig hwn yn adlewyrchu cyfradd chwyddiant ym mis Medi 2022.

Mae'r Bwrdd hefyd yn cynnig cynnydd bach yn y lwfans staffio ar gyfer pob Aelod i adlewyrchu’r llwyth gwaith cynyddol a chymhlethdod y gwaith hwn, ac mae'n gwneud cynigion ynghylch cyflogau Staff Cymorth mewn ymateb i bwysau costau byw.

Dywedodd Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol:

“Nod ein hadolygiad blynyddol o’r cymorth a ddarperir i Aelodau o’r Senedd yw sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau i fod yn addas at y diben ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

“Eleni, mae’n rhaid i ni ystyried effaith gynyddol chwyddiant ar gost rhedeg swyddfeydd, y gost o ymgysylltu ag etholwyr a threuliau eraill.

“Rydym wedi gwneud argymhellion sydd wedi’u dylunio i alluogi Aelodau i barhau i wneud eu gwaith o gynrychioli eu hetholwyr yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae’r argymhellion hyn wedi’u dylunio i sicrhau bod y cymorth yn gynaliadwy, yn adlewyrchu’r amgylchiadau ariannol ehangach yng Nghymru ac yn cynnig gwerth am arian i drethdalwyr.

“Edrychwn ymlaen yn awr at glywed barn pobl Cymru ar y cynigion hyn i’n helpu i lunio cynnig terfynol teg.”

Pennwyd cyflogau’r Aelodau ar gyfer y Chweched Senedd yn 2021. Caiff y penderfyniad hwn ei addasu’n flynyddol yn ôl y newid yn yr enillion gros blynyddol yng Nghymru, yn ôl yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, hyd at uchafswm o 3 y cant. Ffigur yr Arolwg eleni, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, yw 7.3 y cant. Felly, bydd cap o 3 y cant yn cael ei osod ar y cynnydd yng nghyflog yr Aelodau. Mae hyn yn dilyn dwy flynedd lle na fu unrhyw gynnydd yng nghyflog yr Aelodau (cafodd cyflogau eu rhewi ar lefel 2019 yn 2020 a 2021), a chynnydd o 0.4 y cant y llynedd a wnaed ym mis Ebrill 2022.

Os hoffech ymateb i ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau, mae croeso ichi anfon e-bost at remuneration@senedd.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 17:00 ddydd Iau 9 Chwefror 2023.