Adolygiad o dâl a chymorth i Aelodau ar gyfer blwyddyn olaf y Senedd hon
Mae cynigion i addasu tâl Aelodau, yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael pan fyddant yn gadael y Senedd yn agored i ymgynghoriad.
Fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r darpariaethau sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd, mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yn ceisio barn ar gynigion am newidiadau a ddaw i rym ym mis Ebrill 2025.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys cynnig i ddileu'r cap o 3% ar dâl Aelodau yn 2025/26, a’i gysylltu, yn hytrach, â'r codiadau tâl cyfartalog yng Nghymru sy’n 6%. Mae hyn ar ôl cyfnod pan oedd tâl yr Aelodau naill ai wedi’i rewi neu ei gynyddu ar lai na chyfartaledd Cymru, ac mae hefyd yn dod â'r Senedd yn gyfartal â chynnydd tâl mewn deddfwrfeydd eraill yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn ogystal, mae'r Bwrdd yn cynnig newid y taliadau i Aelodau sy'n sefyll i lawr neu sy'n sefyll ac na chânt eu hailethol yn yr etholiad nesaf. Bydd hyn yn debyg i'r dull gweithredu yn Senedd y DU, gan ei bod yn ofynnol i gyn-Aelodau dreulio amser yn cau eu swyddfeydd.
Dr Elizabeth Haywood yw Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd. Dywed:
"Ffocws yr ymgynghoriad hwn yw newidiadau arfaethedig i’r Penderfyniad ar gyfer 2025/26, gan ystyried amgylchiadau newidiol a phwysau chwyddiant.
"Canolbwyntiodd adolygiad y Bwrdd ar ei amcanion a'i egwyddorion craidd i sicrhau bod Aelodau'n cael eu talu'n deg ac yn cael digon o adnoddau i'w cefnogi yn eu dyletswyddau, gan sicrhau hefyd bod penderfyniadau'n briodol o fewn amgylchiadau ariannol ehangach Cymru ac yn cynrychioli gwerth am arian.
"Mae'r ffigwr enillion cyfartalog diweddaraf ar gyfer 2023/24 (ASHE Cymru), a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, wedi cadarnhau cyfnod o dair blynedd o dwf annisgwyl a chyson mewn cyflogau cyfartalog, gyda chynnydd o 7.3%, 5.7% a 6% i ASHE yn ystod 2021/22, 2022/23 a 2023/24 yn y drefn honno. Byddai cadw'r cap o 3% ar dâl Aelodau, sydd wedi bod ar waith ers 2021, yn groes i’r egwyddor hon ac felly mae'r Bwrdd yn cynnig cynnydd o 6% yn unol â'r ffigurau ASHE diweddaraf ar gyfer Cymru.
"Mae'r Bwrdd hefyd wedi adolygu'r cymorth a ddarperir i Aelodau sy'n gadael y Senedd, gan dynnu ar dystiolaeth ryngwladol a dulliau deddfwrfeydd eraill y DU. Edrychwn ymlaen at glywed barn pobl Cymru ar y cynigion hyn i’n helpu i lunio cynnig terfynol teg."
Mae rhagor o wybodaeth am ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau a sut i gyflwyno ymateb ar gael ar y wefan. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 17:00 dydd Mercher 19 Chwefror 2025.