Y cymhellion i sefyll ar gyfer etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r rhwystrau rhag gwneud hynny

Cyhoeddwyd 01/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ei adroddiad strategaeth, ymrwymodd y Bwrdd Taliadau i gael dealltwriaeth well o’r cymhellion i bobl wrth benderfynu a ydynt am sefyll ar gyfer etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu rhag gwneud hynny.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio’n bennaf ar y meysydd hynny yng nghylch gwaith y Bwrdd, yn bennaf y pecyn tâl sydd ar gael i’r Aelodau. Un o brif flaenoriaethau’r Bwrdd yw darganfod a oes ffyrdd, yn ei gylch gorchwyl, o leihau’r rhwystrau hyn er mwyn sicrhau bod ystod eang o bobl yn cael eu denu i sefyll ar gyfer etholiad i’r Cynulliad.

Roedd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn llwyddiannus mewn proses dendro agored i gynnal y gwaith ymchwil ar ran y Bwrdd. Er mwyn llywio’r adolygiad, cynhaliodd y Ganolfan nifer o gyfleoedd ymgysylltu, a oedd yn cynnwys grwpiau ffocws ac arolwg ar-lein.

Mynychodd cynrychiolwyr o dîm ymchwil y Ganolfan gyfarfodydd y Bwrdd ym mis Gorffennaf 2017, mis Ionawr 2018 a mis Mai 2018 i drafod yr adolygiad. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi maes o law.