Recriwtio ar gyfer swyddi gwag ar Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Cyhoeddwyd 14/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/11/2024   |   Amser darllen munud

Mae Clerc Comisiwn y Senedd wrthi’n recriwtio ar gyfer nifer o swyddi gwag ar y Bwrdd.

Mae gan y Bwrdd un swydd wag ar unwaith, yn sgil ymddiswyddiad y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Hanson o’r Fflint. Ar gyfer y swydd hon, mae Comisiwn y Senedd yn chwilio am aelod o’r Bwrdd sydd â phrofiad gwleidyddol fel cyn wleidydd etholedig.

Bydd gan y Bwrdd ddwy swydd wag yn y dyfodol pan fydd tymor dau aelod o’r panel yn dod i ben ym mis Medi 2025. 

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr a manylion am y broses recriwtio, ewch i’r adran Penodiadau Cyhoeddus ar wefan y Senedd.