Cyfarfu'r Bwrdd ar 8 Rhagfyr i gynnal trafodaethau cychwynnol ar faterion sy’n ymwneud â'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sef y cytundeb a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr.
Nododd y Bwrdd y datganiad a wnaed gan y Llywydd a’r farn gyfreithiol (ar gael yn Saesneg yn unig) a fynegwyd ar y cyd gan yr Arglwydd Pannick QC a Marlena Valles – barn a rannwyd gan y Llywydd ar 7 Rhagfyr. Nododd y Bwrdd, at ddibenion y Penderfyniad, nad yw Plaid Cymru yn cael ei hystyried yn blaid sydd â chynrychiolaeth yn y Llywodraeth, ac felly nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau ar unwaith mewn perthynas ag arweinydd Plaid Cymru a’r cymorth sydd ar gael i'r blaid drwy'r Penderfyniad. Fodd bynnag, nododd y Bwrdd y pwyntiau a ganlyn:
- mae'r Cytundeb Cydweithio yn drefniant gwleidyddol newydd i'r Senedd; ac
- mae'r Bwrdd yn parhau i feddu ar yr hawl i gynnig diwygiadau i'r Penderfyniad (yn amodol ar broses ymgynghori) i newid lwfansau os bydd angen gwneud hynny yn sgil y dystiolaeth.
Ers i’r Bwrdd gynnal ei gyfarfod, mae’r Llywydd heddiw wedi rhannu ei chasgliadau ar oblygiadau'r Cytundeb a'i fecanweithiau cysylltiedig, a hynny ar gyfer Busnes y Senedd. Bydd hyn yn llywio trafodaethau'r Bwrdd.
Mae'r Bwrdd wedi cytuno y bydd angen rhagor o amser a gwybodaeth arno cyn y bydd yn gallu dod i unrhyw gasgliadau ynghylch effaith y Cytundeb Cydweithio ar y darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Penderfyniad. Mae'r Cytundeb yn codi nifer o gwestiynau i'r Bwrdd, gan gynnwys cwestiynau sy’n ymwneud â rôl yr Aelod(au) Dynodedig ac effaith y Cytundeb ar y lwfans cymorth i bleidiau gwleidyddol. Mae'n bwysig bod y Bwrdd yn gallu trafod yn ofalus unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â'r materion hyn. Mae'r Bwrdd eisoes wedi ymrwymo i adolygu’r lwfans cymorth i bleidiau gwleidyddol yn ystod tymor y Senedd hon, a bydd ei drafodaethau ar oblygiadau'r Cytundeb Cydweithio yn llywio'r gwaith hwnnw.
Fel bob amser, mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i ymgysylltu â phleidiau'r Senedd fel rhan o'r gwaith hwn, a hynny at ddibenion llunio barn wybodus ar y mater dan sylw.