Nodyn o'r cyfarfod - 7 Gorffennaf 2022

Cyhoeddwyd 16/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2022   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ddydd Iau 7 Gorffennaf. Prif ffocws y cyfarfod oedd ystyried Diwygio’r Senedd a bwrw ymlaen â’r adolygiadau thematig ymhellach fel rhan o’n rhaglen waith strategol. Cytunodd y Bwrdd hefyd ar delerau’r adolygiad canol tymor o effeithiolrwydd y Bwrdd.

Er ein bod wedi paratoi ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb, gwnaethom benderfyniad hwyr i gynnal cyfarfod y Bwrdd a sesiwn galw heibio yn rhithwir, oherwydd y cynnydd yn yr achosion o covid a’r risgiau cysylltiedig. Mae’r Bwrdd yn llwyr fwriadu ailddechrau cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn nhymor yr hydref, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau.

Mae’n resyn gennym nad oedd modd cynnal y cyfarfodydd anffurfiol a drefnwyd gyda’r Grwpiau Pleidiau. Mae’r cyfarfodydd hyn yn amhrisiadwy i’n helpu ni i werthfawrogi effeithiau’r Penderfyniad a rhoi cipolwg i ni o sut rydych chi’n gweithio. Rydym hefyd yn bwriadu aildrefnu’r cyfarfodydd hyn ar gyfer mis Hydref tua’r un pryd â chyfarfod nesaf y Bwrdd.

Mae’r llythyr hwn yn rhoi crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd. Bydd yn
cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd, gyda’r crynodebau o gyfarfodydd blaenorol.

1. Diwygio’r Senedd

Bu’r Bwrdd yn ystyried papur ar Ddiwygio’r Senedd, a oedd yn canolbwyntio ar ganfyddiadau’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd a’r camau nesaf a ragwelir.

Rhoddodd cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig, Huw Irranca-Davies, ei safbwynt ar waith y pwyllgor a’r camau nesaf i wireddu Diwygio’r Senedd erbyn 2026.

Rydym yn gobeithio trefnu cyfarfodydd ag Arweinwyr y Pleidiau yn nhymor yr hydref i helpu i lywio ein syniadau cynnar ar ein hymagwedd at Ddiwygio’r Senedd a’r materion y mae angen inni eu cadw ar flaen ein meddwl wrth i’r ddeddfwriaeth fynd rhagddi, ac yn y pen draw beth fydd Diwygio’r Senedd yn ei olygu ar gyfer Penderfyniad y Seithfed Senedd.

Rhannais â’r Bwrdd fy mod wedi cyfarfod â’r Llywydd a’n bod wedi cytuno i gyfarfodydd rheolaidd ychwanegol wrth i’n ffyrdd o feddwl am ddiwygio’r Senedd ddatblygu.

Nododd y Bwrdd ei bod yn debygol y byddai angen iddo ystyried amcangyfrifon costau wrth baratoi ar gyfer y Bil.

2. Adolygu Ffyrdd o Weithio

Fel rhan o’i raglen waith strategol, mae’r Bwrdd yn bwriadu cynnal adolygiad thematig o’r newidiadau i’r ffyrdd o weithio ymysg Aelodau a staff cymorth yn sgil pandemig Covid-19 a’r goblygiadau i’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau.

Cytunodd y Bwrdd mai Syr David Hanson fyddai’n arwain y Bwrdd ar yr adolygiad thematig hwn.

Fe wnaethom ddatblygu ein cylch gorchwyl drafft, dull gweithredu ac amserlenni ar gyfer yr Adolygiad Thematig Ffyrdd o Weithio. Bydd y cylch gorchwyl yn cael ei rannu â’r grwpiau Cynrychiolwyr Aelodau a Staff er mwyn cael adborth cyn cyhoeddi.

Mae Comisiwn y Senedd hefyd yn cynnal adolygiad ar Ffyrdd o Weithio. Y bwriad yw y bydd y Comisiwn a’r Bwrdd yn cynnal ymarfer ymgysylltu ar y cyd ar ffyrdd o weithio gydag Aelodau a staff.

Cytunodd y Bwrdd fod angen ystyried a rhoi sylw i faterion o flaenoriaeth uniongyrchol ynghylch ffyrdd o weithio presennol mewn pryd ar gyfer yr adolygiad blynyddol nesaf o’r Penderfyniad yn nhymor yr hydref, fel adolygu arferion gweithio o gartref a’r lwfans gweithio gartref.

Dywedodd y Bwrdd y bydd angen ystyried newidiadau mewn costau ynni a’r cynnydd cyffredinol mewn costau byw y tu allan i’r adolygiad thematig hwn. Mae’r Bwrdd yn cadw llygad barcud ar hyn, ac, yn ein cyfarfod nesaf, bydd yn ystyried a oes angen gwneud unrhyw addasiadau i lwfansau eleni.

3. Adolygiad Thematig – Staffio

Trafododd y Bwrdd gylch gorchwyl drafft ar gyfer adolygiad thematig o’r cymorth staffio a’n hymagwedd at yr adolygiad. Cytunodd y Bwrdd i ganolbwyntio ar faterion y mae angen eu hystyried ar unwaith yn nhymor yr hydref.

Bydd cylch gorchwyl drafft yr adolygiad hwn yn cael ei rannu â’r Grwpiau Cynrychioliadol cyn ein cyfarfod nesaf er mwyn eu trafod. Bydd eich mewnbwn a’ch tystiolaeth yn helpu i lunio’r adolygiad a fydd hefyd yn canolbwyntio ar faterion tymor hwy i’r Seithfed Senedd. 

4. Effaith y cytundeb cydweithio ar gyflogau a lwfansau Aelodau

Bydd y Bwrdd yn ystyried eto effaith y cytundeb cydweithio (“y cytundeb”) rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar gyflogau a lwfansau Aelodau yn ei gyfarfod ym mis Hydref. Cytunwyd i ofyn am dystiolaeth ar y mater hwn gan randdeiliaid mewnol a Llywodraeth Cymru dros fisoedd yr haf er mwyn llywio ein penderfyniadau yn nhymor yr hydref. Byddwn yn ysgrifennu at Arweinwyr Pleidiau i ofyn am eu barn ar effaith y cytundeb.

5. Adolygiad canol tymor o effeithiolrwydd y Bwrdd

Cytunodd y Bwrdd ar gylch gorchwyl ar gyfer adolygiad o’i effeithiolrwydd yn ogystal â chwmpas ac amserlen yr adolygiad hwn. Bydd yr adolygiad yn rhoi cyfle i randdeiliaid roi adborth ar sut rydym yn ymgysylltu â nhw a’n gallu i gyflawni ein rhaglen strategol ar gyfer ein cyfnod sy’n weddill yn y swydd. Cynhelir yr adolygiad yn nhymor yr hydref gan Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd, Comisiwn y Senedd.

6. Adroddiad Blynyddol

Adolygodd y Bwrdd ei Adroddiad Blynyddol drafft. Bydd yr adroddiad yn cael ei osod gerbron y Senedd erbyn diwedd mis Awst 2022.

7. Ein cyfarfod nesaf

Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar 13 Hydref 2022, pan fyddwn yn ystyried y dystiolaeth a dderbyniwyd mewn perthynas â’r Cytundeb Cydweithio. Byddwn hefyd yn ystyried effaith costau byw cynyddol a phwysau chwyddiant ar gostau busnes yr Aelodau; y camau nesaf ar Ffyrdd o Weithio a’n Hadolygiad Staffio a diweddariad gan Ddiogelwch ar fesurau diogelwch Aelodau a staff cymorth.