Nodyn o'r cyfarfod - 27 Ionawr 2022

Cyhoeddwyd 08/02/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Fe wnaeth Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd gyfarfod ddydd Iau 27 Ionawr. Yn y cyfarfod, canolbwyntiwyd ar effaith y Cytundeb Cydweithio ar feysydd o fewn cylch gorchwyl y Bwrdd, grwpiau’r pleidiau yn cael cyngor cyfreithiol wedi’i ariannu gan y Penderfyniad, y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu, a’r gweithle yn y dyfodol (gan gynnwys ystyriaethau ynghylch iechyd a diogelwch).

Mae’r llythyr hwn yn rhoi crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd, ynghyd â chrynodebau o gyfarfodydd blaenorol.

1. Ymgysylltu â grwpiau’r pleidiau

Ers y tro diwethaf i ni ysgrifennu atoch, mae ein rhaglen ymgysylltu ag Aelodau a staff wedi parhau. Yn ystod tymor y gwanwyn hwn, rydym wedi bod yn bresennol mewn cyfarfodydd grwpiau pleidiau gwleidyddol y Senedd, ac yn ddiolchgar iawn am yr amser a gymeroch chi i siarad â ni am eich safbwyntiau a’ch profiadau.

Rydym wedi nodi'r adborth a gawsom yn sgil y cyfarfodydd hynny a thrwy'r grwpiau cynrychioliadol o Aelodau a staff cymorth. Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod ni’n cymryd camau mewn ymateb i'r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni. Ein bwriad yw parhau i gyfathrebu’n rhagweithiol ac agored â chi er mwyn sicrhau bod yr adnoddau a ddarperir gan y Penderfyniad yn addas at y diben i’ch galluogi i gyflawni eich rolau hanfodol fel Aelodau o’r Senedd.

2. Ystyriaeth bellach o effaith y Cytundeb Cydweithio ar feysydd o fewn cylch gorchwyl y Bwrdd

Ar 15 Rhagfyr 2021 fe wnaethom ysgrifennu at bob Aelod a’r holl staff cymorth i roi gwybodaeth am ein hystyriaeth gychwynnol o faterion sy’n ymwneud â’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Yn y llythyr hwnnw, fe wnaethom amlinellu’r canlynol:

  • fel Bwrdd, fe wnaethom nodi’r cyngor cyfreithiol ar y cyd gan yr Arglwydd Pannick QC a Marlena Valles a oedd yn nodi – at ddibenion y Penderfyniad – nad yw Plaid Cymru yn cael ei hystyried yn blaid sydd â chynrychiolaeth yn y Llywodraeth, ac felly nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau ar unwaith mewn perthynas ag arweinydd Plaid Cymru a’r cymorth sydd ar gael i'r blaid drwy'r Penderfyniad;
  • mae'r Cytundeb Cydweithio yn drefniant gwleidyddol newydd i'r Senedd; ac
  • fel Bwrdd, fe wnaethom barhau i feddu ar yr hawl i gynnig diwygiadau i'r Penderfyniad (yn amodol ar broses ymgynghori) i newid lwfansau os bydd angen gwneud hynny yn sgil y dystiolaeth.

Roedd ein llythyr hefyd yn dweud bod angen mwy o amser a gwybodaeth cyn gallu dod i gasgliadau am effaith y Cytundeb Cydweithio ar ddarpariaethau o fewn y Penderfyniad, o ystyried y cwestiynau a godwyd ganddo mewn perthynas â rôl yr Aelodau Dynodedig, er enghraifft, a dyraniad y lwfans cymorth i bleidiau gwleidyddol.

Yn ein cyfarfod ar 27 Ionawr fe wnaethom ddychwelyd at y mater hwn. Yn ogystal ag ymgyfarwyddo â'r dogfennau ynghylch y Cytundeb a’r Mecanweithiau (fel y’u cyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2021), gwnaethom hefyd ohebu ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru. Ein nod wrth wneud hynny oedd llunio darlun o'r arian cyhoeddus sy’n debygol o gael ei wario ar y Cytundeb ac asesu effaith (os o gwbl) y cymorth ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cytundeb Cydweithio ar waith pleidiau gwleidyddol a deiliaid swyddi yn y Senedd.

Mae’n amlwg i ni fod llawer o ansicrwydd o hyd mewn perthynas â’r modd y bydd y Cytundeb yn gweithredu’n ymarferol, a pha effaith y bydd yn ei chael ar fusnes y Senedd (gan gynnwys, er enghraifft, rôl Aelodau Dynodedig, arweinwyr pleidiau, Aelodau meinciau cefn a grwpiau’r pleidiau). Yn ein barn ni, mae'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn rhy gyfyngedig i'n galluogi i ddod i gasgliadau rhesymol a chadarn am effaith y Cytundeb ar ddarpariaethau yn y Penderfyniad.

Ar ôl ystyried y cyngor cyfreithiol ar y cyd – ac yn sgil ein barn fod y sylfaen dystiolaeth bresennol yn parhau i fod yn rhy gyfyngedig i ddod i unrhyw gasgliadau cadarn – mae’n rhy gynnar, yn ein tyb ni, i benderfynu a yw newidiadau i’r dyraniad o gronfeydd y Penderfyniad yn briodol o ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio. Ein bwriad yw adolygu'r mater hwn yn ein cyfarfod cyntaf yn nhymor yr hydref (mis Hydref 2022) ac erbyn hynny efallai y bydd y dystiolaeth ynghylch effaith y Cytundeb yn gliriach. Mae hyn hefyd yn caniatáu amser i’r holl randdeiliaid perthnasol rannu eu barn â ni dros doriad yr haf, er mwyn llywio ein hystyriaeth, os ydyn nhw’n dymuno gwneud.

3. Grwpiau’r pleidiau yn cael cyngor cyfreithiol wedi’i ariannu gan y Penderfyniad

Yn ystod tymor yr hydref, cawsom ohebiaeth yn gofyn am eglurder ynghylch a allai grwpiau’r pleidiau ddefnyddio cronfeydd y Penderfyniad i gael cyngor cyfreithiol allanol.

Fe wnaethom ystyried y mater a:

  • chytuno nad oes unrhyw waharddiad awtomatig ar Aelodau/arweinwyr rhag ceisio cyngor cyfreithiol allanol – nac ar y costau sy’n cael eu hawlio drwy gronfeydd y Penderfyniad – cyn belled â bod y rheswm dros ofyn am gyngor cyfreithiol allanol yn syrthio o fewn un o’r lwfansau ac yn bodloni’r egwyddorion a nodir. yn adran 1.3 o'r Penderfyniad;
  • nodi mai mater i'r Comisiwn yw a yw'r Comisiwn yn gallu darparu cyngor cyfreithiol i Aelodau.

4. Y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu

Fel rhan o’n hadolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer 2022-23, rydym wedi gwahodd safbwyntiau ar y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu, gan gynnwys a fyddai’n well dileu’r gronfa honno a’i disodli drwy drosglwyddo £2,500 ychwanegol i’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr, i roi mwy o hyblygrwydd i Aelodau o ran sut y gellir ei ddefnyddio. At hynny, rydym wedi gwahodd safbwyntiau ar fanteision y darpariaethau trosglwyddo, cyfuno ac ategu presennol sydd ar waith ar gyfer y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu, a pha elfennau (os o gwbl) o'r nodweddion hynny o'r gronfa honno y byddai Aelodau a/neu staff cymorth yn dymuno eu cadw pe bai'r cyllid yn cael ei drosglwyddo i'r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

Yn ein cyfarfod ar 27 Ionawr cawsom ragor o wybodaeth am oblygiadau ymarferol symud y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu i mewn i’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr. Fe wnaethom gytuno i ystyried y mater yn derfynol yn ein cyfarfod nesaf ym mis Mawrth, ochr yn ochr â’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn barod ar gyfer cyhoeddi Penderfyniad 2022-23.

5. Y gweithle yn y dyfodol ac ystyriaethau iechyd a diogelwch cysylltiedig

Yn ein llythyr ar 14 Hydref 2021, rhoesom ddiweddariad ar ein hadolygiad o gymorth yn sgil COVID-19. Fe wnaethom ddatgan ein bwriad i barhau â darpariaethau ar gyfer y Lwfans Gweithio Gartref, y Gronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn dilyn COVID-19, ac asesiadau Offer Sgrin Arddangos (neu DSE). Fe wnaethom ymrwymo i sicrhau y byddai’r darpariaethau hynny’n aros ar waith wrth i ni gynnal yr hyn y credwn sy’n angenrheidiol ac adolygiadau amserol o’r cymorth ar gyfer gweithio hyblyg/gartref, ac ar gyfer gofynion iechyd a diogelwch cysylltiedig. Fe wnaethom ddatgan ein bwriad i roi ystyriaeth gychwynnol i’r gwaith hwn ym mis Ionawr 2022.

Yn ein cyfarfod ar 27 Ionawr buom yn ystyried y trefniadau presennol sydd ar waith i gefnogi Aelodau a staff sy’n gweithio gartref/o’r swyddfa/fel rhan o drefniant hybrid. Gwnaethom ystyried y rhaniad mewn cyfrifoldebau rhwng cymorth a ariennir gan y Penderfyniad ac offer a gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn. At hynny, fe wnaethom archwilio’r amrywiaeth o fecanweithiau y gellir eu defnyddio i gael mynediad at ddarpariaethau iechyd a diogelwch (gan gynnwys y rheini ynghylch materion sy’n ymwneud yn benodol â COVID) drwy’r Penderfyniad.

Daethom i’r casgliad bod angen adolygiad ehangach o’r materion hyn er mwyn cyflawni ein hamcan strategol i fod yn ymatebol i anghenion cyfnewidiol yr Aelodau, yn ogystal â darparu trefniadau symlach o fewn y Penderfyniad. Er mwyn gwneud yn siŵr bod y darpariaethau a roddwn ar waith yn addas at y diben, bydd yn hanfodol i ni feithrin gwell dealltwriaeth o’ch cynlluniau fel Aelodau ar gyfer eich ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Byddwn yn casglu rhagor o wybodaeth dros y misoedd nesaf i lywio ein cynigion ar gyfer newid. Lle bo modd, byddwn yn gweithio gyda'r Comisiwn i osgoi unrhyw ddyblygiad o ran ymdrech i chi. Yn ein cyfarfod ym mis Mawrth byddwn yn ystyried ein blaenraglen waith strategol, ac yn amlinellu wedi hynny fanylion ac amseriadau’r gwaith adolygu sy’n fwriad gennym ei gyflawni yn ystod y Chweched Senedd.

6. Materion eraill

Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2022-23

Mae ein cynigion ar gyfer Penderfyniad 2022-23 yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Iau 17 Chwefror. Hoffem ddiolch i'r rheini sydd eisoes wedi ymateb, gan annog yr Aelodau a'u staff i rannu eu barn gyda ni cyn y dyddiad cau. Byddwn yn ystyried eich holl safbwyntiau yn ein cyfarfod nesaf ym mis Mawrth, ac yn cyhoeddi Penderfyniad 2022-23 erbyn diwedd y mis hwnnw yn barod ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.

Ein cyfarfod nesaf

Bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 10 Mawrth 2022. Byddwn yn canolbwyntio ar ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad, a chwblhau'r Penderfyniad ar gyfer 2022-23.