Nodyn o'r cyfarfod - 26 Mai 2022

Cyhoeddwyd 17/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/06/2022   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ddydd Iau 26 Mai. Prif ffocws y cyfarfod oedd ystyried adolygiadau thematig y mae'r Bwrdd yn bwriadu eu cynnal fel rhan o'i raglen waith strategol a chael gwybodaeth gefndir yn ymwneud â'r rhain. Hefyd, trafododd y Bwrdd newidiadau i Reolau cynllun pensiwn yr Aelodau, y cynllun pensiwn ar gyfer staff cymorth yr Aelodau, a chwmpas adolygiad canol tymor o effeithiolrwydd y Bwrdd.

Mae’r llythyr hwn yn rhoi crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd, gyda’r crynodebau o gyfarfodydd blaenorol.

1. Pensiynau

Rheolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Ysgrifennais atoch ar 22 Hydref 2021 i’ch hysbysu o fwriad y Bwrdd i newid rheolau cynllun pensiwn yr Aelodau. Cynigiwyd y newidiadau hyn yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys yn achosion McCloud a Sargeant. Dyfarnwyd bod rhai o ddarpariaethau cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus a oedd yn trin aelodau iau yn llai ffafriol ar sail oedran yn wahaniaethol. Ymgynghorodd y Bwrdd â'r Aelodau ar y newidiadau arfaethedig i Reolau'r Cynllun ac ni chafwyd gwrthwynebiad.

Fel y’i nodwyd yn y llythyr hwnnw, roedd yn ofynnol i'r Bwrdd gael cymeradwyaeth Trysorlys EM i ddiwygio Rheolau'r Cynllun. Fodd bynnag, mae diwygiadau diweddar i Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 wedi dileu’r gofyniad i geisio cydsyniad Trysorlys EM ar gyfer unrhyw amrywiadau i Gynllun Pensiwn Aelodau Senedd Cymru. Yn unol â hynny, yn ei gyfarfod ar 26 Mai, cytunodd y Bwrdd ar ei newidiadau arfaethedig i
Reolau'r Cynllun.

Bydd y Rheolau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi gan Fwrdd Pensiwn Cynllun Pensiwn Aelodau Senedd Cymru maes o law.

Cynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau

Fel y gwyddoch, mae’r Bwrdd wedi gwneud nifer o newidiadau i annog staff i ymuno â’r cynllun pensiwn, gan gynnwys darparu cyfraniad cyflogwyr ychwanegol o hyd at 3 y cant pan fydd staff yn gwneud eu cyfraniad eu hunain. Yn dilyn sylwadau ynglŷn â’r cynllun pensiwn staff cymorth a gafwyd mewn ymateb i'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad, ystyriodd y Bwrdd gymharu’r cynllun â chynlluniau pensiwn perthnasol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn agored i holl gyflogeion y Gwasanaeth Sifil a sefydliadau a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Yn wahanol i Gynghorwyr Arbennig, sy’n cael eu hystyried yn weision sifil dros dro, nid yw staff cymorth yn gymwys i ymuno â’r cynllun.

Cafodd y Bwrdd wybodaeth am y cyfraniadau y mae’n ofynnol i gyflogeion eu gwneud, am y cyfraniadau a wneir gan gyflogwyr, ac am y buddion a geir o dan wahanol gynlluniau. Mae'r cynllun staff cymorth yn ymddangos yn deg o’i gymharu â'r cynlluniau eraill a ystyriwyd. O ganlyniad, ystyriwyd nad oes angen unrhyw newidiadau pellach i gynllun pensiwn staff cymorth.

2. Adolygiad canol tymor o effeithiolrwydd y Bwrdd

Mae'r Bwrdd wedi cytuno i gomisiynu adolygiad canol tymor o'i effeithiolrwydd. Cyflwynodd Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd Comisiwn y Senedd bapur cwmpasu ar gyfer yr adolygiad hwn.

Cytunodd y Bwrdd ar gwmpas eang yr adolygiad ac i ystyried papur manylach ar yr adolygiad yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, gyda'r bwriad o gyflawni hyn yn ddiweddarach eleni.

3. Adolygu Ffyrdd o Weithio

Fel rhan o’i raglen waith strategol, mae’r Bwrdd yn bwriadu cynnal adolygiad thematig o’r newidiadau i’r ffyrdd o weithio ymysg Aelodau a staff cymorth yn sgil pandemig Covid-19 a’r goblygiadau i’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau.

Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Comisiwn y Senedd, ar waith y Comisiwn mewn ymateb i newidiadau yn y ffyrdd o weithio ymysg Aelodau a staff. Cytunwyd y dylai’r Bwrdd a Chomisiwn y Senedd gydweithio i ymgysylltu â’r Aelodau a’u staff er mwyn deall yr hyn sydd orau ganddynt o ran ffyrdd o weithio, i osgoi dyblygu, ac i wneud y defnydd gorau o adnoddau ac amser yr Aelodau. Bydd gwaith ymgysylltu o'r fath yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

Trafododd y Bwrdd bapur cwmpasu ar gyfer ei adolygiad ei hun a fydd yn cael ei lywio gan y gwaith ymgysylltu ag Aelodau a staff cymorth. Bydd cynllun ar gyfer sut a phryd y dylid cynnal yr adolygiad yn cael ei drafod gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.

4. Adolygiadau Senedd yr Alban

Ymunodd swyddogion o Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban â chyfarfod y Bwrdd i drafod sut mae Senedd yr Alban yn casglu gwybodaeth am newidiadau i ffyrdd o weithio ymysg ei Haelodau a'u staff. Er gwaethaf gwahaniaethau clir yn y cyd-destunau y mae Aelodau Senedd yr Alban ac Aelodau o’r Senedd yn gweithredu ynddynt, roedd y wybodaeth a rannwyd gan gydweithwyr yn yr Alban yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol.

Hefyd, trafododd swyddogion o Senedd yr Alban eu gwaith wrth adolygu'r cymorth staffio sydd ar gael i’r Aelodau yno.

Yn sgil y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i ymgynghoriad y Bwrdd ar yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ac yn ystod ei waith ymgysylltu ag Aelodau, mae’r Bwrdd yn bwriadu cynnal ei adolygiad ei hun o’r cymorth staffio sydd ar gael i Aelodau, yn amodol ar ei gapasiti o ran adnoddau, ac mae hyn yn cael ei ystyrir fel rhan o gais Comisiwn y Senedd am gyllideb atodol.

Ymgynghorir ag Aelodau a'u staff fel rhan o unrhyw adolygiad o'r fath.

Materion eraill:

Fel rhan o’i raglen ymgysylltu barhaus, mae’r Bwrdd yn ceisio trefnu cyfarfodydd gyda sampl o Aelodau newydd ac Aelodau wedi’u dychwelyd i glywed am eu profiadau hyd yma yn ystod y Chweched Senedd. Mae'r Bwrdd yn gwerthfawrogi'r farn a rannwyd gan yr Aelodau hynny y mae eisoes wedi cyfarfod â nhw.

Ein cyfarfod nesaf

Bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 7 Gorffennaf 2022. Bydd y Bwrdd yn trafod papurau pellach ar ei adolygiad arfaethedig o ffyrdd o weithio a'r adolygiad canol tymor o effeithiolrwydd y Bwrdd. Byddwn hefyd yn ystyried adroddiad blynyddol y Bwrdd ar gyflawni ei swyddogaethau, y goblygiadau i’r Penderfyniad yn sgil canfyddiadau’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, a sut i ymgysylltu â’r Aelodau ynghylch goblygiadau’r Cytundeb Cydweithredu.